Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW, IOIfAWB, 1842. Y METHODIST A'R LLANWR. GAN Y PARCH. RIGHARD WILLIAMS, LIYERPOOL (jWR dysyml oedd y Llanwr, yn byw o fewn milldiri eglwys y plwyf, Byddai yn wastad yn y llan ar y weddi foreol, ac weithiau yn y gosper. Porthai y gwasanaeth yn fanwl a gwresog. Yr oedd yn ddiareb am ei ddefosiwn wrth ddywedyd, "Ar- glwydd, trugarha wrthym, a gostwng ein calonau i gadw y gyfraith hon. Nyni a atolygwn i ti ein gwrando ni, Arglwydd daionus," &c. Yr oedd yn cadw y Grawys sant- aidd (fel ei galwai) yn ddichlynaidd iawn. Byddai y Nadolig yn wledd ganddo, a Gwener y Croglith y sant- eiddiolaf o holl ddyddiau y fiwyddyn. Pan elai yn glaf, byddai raid i'r person a'r clochydd ddyfod i'w dŷ i weddio drosto—i'w " ollwng o'i holl bechodau," ac i "finistrio y cymun bendigedig " iddo. Yr oedd yn darllen cryn lawer ar y Beibl, y Common Prayer, yn nghyda llyfrau da ereill, megys— Holî ddyledswydd dyn—Dylyniad Iesu Grist—Llyfr y Ficer, &c, &c. Yr oedd yn talu llawn cymaint o barch i Lyfr Gweddi Gyffredin ag i'r Beibl; oblegid nid oeddyn ystyried y Beibl yn deilwng o'r enw, oni bydd y Weddi GyíFredin yii ei ddechre, a'r Apocrypha yn ei ganol. Cafodd fwy nallawer o'i gyfoedion o ysgol yn ei febyd. Deallai Saeson- aeg cyn belled ag i fedru defnyddio ei bapyr newydd. Byddai y per- son yn benthyca iddo ambell i bapyr, yn enwedig pan fyddai ynddo ryw- beth gorchestol o blaid " yr eglwys," ac yn erbyn y dissenters. Yr oedd, ar y cyfan, yn ddyn serchiadol fel gŵr, fel tad, fel meistr, ac fel cymydog. Ni chlywais fod dim anweddus wedi cymeryd lle un amser rhyngddo ef a'i deulu, oddi- eithr tipyn o ddwrdio a diawlio pan elent hwy yn Uadradaidd i wrando y Cariadoes a'r Pengryniaid, fel eu galwai. Ond y mae yr ymddyddan- ion a fu rhyngddo ef a'i gymydog y Methodist, o dro i dro, wedi gwneyd cyfnewidiad mawr yn ddiweddar yn ei ymddygiadau, fel y mae yn lla- wer tirionach at bobl y capel nag y bu. Y mae yn awr yn goddef i'w deulu, yn ddiwarafun, ddyfod yno i wrando, ac yn eu holi yn fanwl pan ddelont adref am y text, &c.; îe, y mae wedi bod rai gweithiau yn y capel ei hun ; ac y mae ei ymddyg- iad pan ddelo yn rhagori llawer ar y cyffredin. Y mae fel un yn gwylio ar ei droed wrth fyned i dŷ Dduw— nis gwelir ei het am ei ben tra rhwTng muriau yr addoldy—y mae yn ym- ostwng ar ei liniau y peth cyntaf pan ddelo i'r lle, i ofyn am fendith Duw ar y moddion—y mae yn gwrando yn astud—yn ymagweddu yn dde- fosiynol ar hyd y gwasanaeth—ac ni syfl o'i fan nes diweddu y modd- ion. Yn wir y mae yn hynod o brydferth yn y pethau hyn. Clywais ddarfod i'r person, rai wythnosau yn ol, ei ddwrdio yn dost am ei fod yn gadael "corlan y gatholig a'r apostolig eglwys," ac yn myned at y "sismaticiaid." A'i fod yntau wedi begio ei bardwn, a dyweyd wrrtho ei fod ef yn ewyllysio cefnogi pob daioni—fod pobl y capel wedi gwneuthur daioni anwadadwy