Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR AIHHA w Cyf. iv.] RHAGFYR, 1839. (Rhif. xlviii. BUCHEDDIAETH. B Y B GOFIANT AM MRS. MARGARET EVANS, GWRAIG MR. JOHN EVANS o'r forge, plwyf llangyniew, swydd drefaldwyn, Tr hon a fufarw Áwst I2fed> 1839, yn y 3lain o'i hoedran. Cafobd Margaret Evans y fraint o ym- uuo â chynulleidfa y Trefnyddion Calfin- aidd yn Pont Robert, yn y flwyddyn 1827. Cafodd hefyd y fraint o gael ei chynal ya ddidramgwydd i'r achos, a glynu wrtb ei phroffes hyd ddiwedd ei hoes. Byddai yn hoffiawn ganddi am yr Ysgol Sabbothol, a chyfrifai yn fraint gael bod o ryw was- anaeth gyda'r rhan yma o'r gwaith; er ar yr un pryd ystyriai ei hun yn annheilwng o'r gwasanaeth gwaelaf. Byddai yn ym- drechgar i fod yn gyson yn mhob moddion o ras. Yn y flwyddyn 1836, fe'ipriodwyd à John Evans, mab John a Mary Eváns, o Pendugwn, plwyf Llanfihangel, yr hwn oedd yn perthyn i'r un gymdeithas a hith- au yn Pont Robert. Ganwyd iddynt ddau o feibion, pa rai fuont feirw ar eu genedigaeth. Bu ei hymddygiad yn yr ystàd anrhydeddus hon, fel gwiaig.yn dir- ion a serebog at ei phriod. Yn fuan wedi hyn, ymaflodd y darfodedigaeth (decay) ynddi ; ond cafodd gymhorth i fod yn dawel yn y cystudd hwn. Meddai weith- iau, " Yrydwyfyn bur sâl, John bach." Ond meddai dracbefn, " Pa beth yw hyn i mi ddyoddef, wrth y peth a ddyoddefodd Iesu Grist yn lle pechadur o'r fath ag wyf fi." Gofidiai yn fawr na buasai yn fwy deffro a llafurus gydag achos yr hwn oedd wedi bod mor ddeffro a lîafurus gydag achos rhai o'i bath hi. Dywedodd an- nghrediniaeth wrthi nad oedd ei chrefydd i gyd ond rhagrith ; ac nad adnabu erioed mo Iesu Grist yn iawn, yr hyn a barodd gyffro annghyffredin ar ei meddwl dros amryw ddýddiau, nes yr oedd i raddau yn anobeithiol; ond uid oedd yn hollol felìy. Yn fuan adlewyrchodd drachefn, a dy- wedai yn siriol iawn, " Yr ydwyf fi yn myned adref, &c, &c, mae y wawr wedi tori—mae hi wedi myned yn ddydd goleu ar fy meddwl beddyw, yn nghanol nos angeu." Fe ddywedodd Satan wrthyf nad oeddwn yn adnabod Iesu Grist, ac nad oedd fy nghrefydd i gyd ond rhagrith ; Oüd y mté yn dweyd celwydd." Yna 2 M galwai y teulu yn.nghyd i ysgwyd dwy- law, ac i ffarwelio â phob un o honynt, gan eu rhybyddio a'u cynghori yn dra phwysig yn nghylch eu mater tragwyddol. Meddai, " Gwaith caled iawn yw marw i'r duwiol: ond pa beth ydyw i'r annuw- iol? Ffarwel i chwi gyd, yr ydwyf fí yn myned i'r afon ; ond dywedai yn siriol annghyffredin, ' mae yr archoffeiriad yn y dw'r/ gan adrodd rhan o'r pennill can- lynoí— ' Er dyfned ydyw'r afon, Ey maint yw grym J dw'r, Mae'r gwaelod wedì ei g'ledu, A'r íesn'n yn mlaeuaf gẃr.* " Diolch, diolch," meddai, " am frawd wedi ei eni erbyn y caledi hwn." Medd- aiidrachefn, " Yn y dyfroedd mawr a'r tonau, Nid oes neb a ddeìl fy mhen ; Ond fy anwyl briod lesu, A fu farw ary pren, &c, &c. Yna y dywedai, ' Mae arnaf chwant i'm dattod er's talm, ond fod arnaf lawer o ofn nad oeddwn yn ddigon parod; ohd yn awr, meddai, mae arnaf hiraeth âm fyned adre', adre', &c. O na chawn wel- ed fy mrodyr a'm chwiorydd crefyddol 1 Mae crefydd yn talu ei ffoidd heddyw.' Gofynodd ei phriod iddi, "Aydych chwi yn bur sâl, Margaret fach ?" Atebodd hithau, " Ydwyf, John bach ; ondni bydd yno na chur, na phoen, na chwyno gan ua clwy'; ond pawb mewn hwyl yn moli'r Oen, i dragwyddoldeb mwy." Gofynodd drachefn, " Pa fodd yr. oedd rhyngddi a Iesu Grist." " O," ebaì hi, yr " ydwyf wedi rhoddi fy hunan iddo fel yr ydwyf." Gofynodd drachefn, " A oedd hi yn fodd- lon i farw ?" Atebodd yn siriol ei bod, gan chwanegu, " Mae arnaf chwant i'm dattod, &c, &c." Gofynodd un iddi, " A oedd arni syched." Atebodd yn siriol, nad oedd y pryd byny; gan chwanegu, " Ni bydd yno ddim sycheä; onà dmu