Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR A T H R A W. Cyf. iv.] TAÖHWEDD, 1839. [Rhif. xlvii. DUWINYDDIAETH. ------» PREGETH A DRADDODWYD GAN Y DIWBDDAR MR. T. GREEN ABERAERON, A€ A GAFWYD YN YSGRIFENEDIG YN Ef LYFR-GELL. (Parhâd tudal. 222.) 3. Gwybodaeth anhawdd i ffaeî gafael «rni. Maé yn gofyn llawer o lafur i'w hennill. Mae myned ar ol y pethau a berthyn i'n heddwch, yn waith niawr ac eang. Mae llawer o bethau yn angen- rheidiol tuag at gyrhaedd gwybodaeth ddaearol; felly hefyd mae gan y wybod- aeth hon lygredigaetbau i'w marweiddio —dyledswyddau i'w cyflawni-—temtasiyn- au i'w gwrtfewynebu; ac onid yw hyn yn waith mawr, ac yn gofyn diwydrwydd mawr ? Pe bae genym ond ychydig i'w wneuthur yn ein dydd, buasai hyny yn rhyw esgus dros gysgu yn hir; ond gan fod y gwaith yn fawr, mae yn gofyn codi yn fore, a myned yn hwyr i gysgu. Ni gawn ein hesgusodi yn y farn am adael pethau gwâg y byd heb eu gwneuthur, os byddwn wedi gofalu am yr un peth angen- rheidiol yma. Ond pa beth a'n hesgusoda ni am beidio edrych am y pethau a berth- yn i'n heddwch ? A allwn ni ddweyd i ni fod gyda phethau mwy angenrheidiol a defnyddiol? O na. Wel, ni a ddylem fod gyda'r pethau hyny y rhaid eu gwneuth- ur, neu fod yn ol; ac os ydym yn myned i oedi am ryw beth, bydded am y byd a'i wagedd: ceisiwn "yn gyntaf Dduw a'i gyfiawnder." Nid oes neb a chymaiat o waith a'r Crist- ion: nid yw gwaith cristionogrwydd byth iddiweddu; nid yw art crefydd byth yn cael ei dysgu yn berffaith ; yr oedd hyd yn nod Paul yr apostol yn ystyried ei hun yn mhell o fod felly. Mae yn arferiad gan Limners, pan y byddontyn gorphen rhyw ddernyn, roddi facit ar ei waelod, hyny vw, mi a'i gorpbenais; ond yr wyf yn cofio darllen ara ryw Limner a fyddai yn gosod yn wastad "mi a'i gwnaethym," yn He mi a'i gorphenais," am ei fod yn barnu na wnaeth ddim erioed nad oedd yn bosibl ei ddiwygio. Nid yw y gwaith sydd gan y Cristion tra yn y byd hwn yn berffaith, ac nid yw yn ystyried ei hun felly chwaith. Mor eang yw gorchymynion Duw! ac mor faeh yw ein goreu ni mewn eymhariaetb 2 I â'r rheol! Megys y mae ein syniad ni o'r pethau a bertbyn i'n heddwch yn fach mewn cyferbyniad i'r rheol sydd genym at hyn; felly hefyd mae yn fach mewn cyferbyniad i'r wobrwy sydd am fod gyd- a'r petbau hyn. Er nad oes dim a allwn ei roddi yn gydbwys am esgeulusiad iach- awdwriaeth, eto mae iachawdwriaeth yn ddigon o dâl am esgeuluso pethau y byd hwn; neu,pe bae dynion yn ei hesgeuluso, byddai mwynhâd o'r wybodaeth hon yn ddigon o dàl am y cwbl. Nis gallwn werthfawrogi y wybodaeth bon yn rhy fuan ; oblegid ni fydd y mwynhâd yn rhy hir yn ein golwg. Pe byddai yn bosibl i ryw oûd fod yn y nefoedd, mi feddyliwn mai am na buasid yn myned ar ol y wyb- odaeth hon yn gynt, a chyda mwy o ym- drech, fuasai yr achos. Ni fydd genym ddim ihagor i fyw arno i dragwyddoldeb nâ:r hyn a gasglwn yn nydd gras. Mae genyt lwyth o lygredd i'w ddwyn ; yr wyt yn gorfod hwylio dy lestr yn y blaen yn erbyn rhwystrau aneirif. Pan y byddi am redeg i gymeryd gafael ar y peth, mae yna ryw wisg wenllaes bir yn dy rwystro; pan y byddi yn ymosod at wneuthur da, y mae y drwg yn bresenol gyda thi. Mae y byd yma am ein tynu ni oddi wrth Dduw,- ac y mae fel plwm ar adenydd ein myfyr- dod, fel na allwn ehedeg at y pethau sydd uchod. Pa fwyaf a welo y diafol a'th elynion ysbrydol o awydd ynot am fyned yn mlaen yn'gyflym gyda'r wybodaeth am bethau crefydd, mwyaf o rwystrau fydd- ant yn cyfodi i'th erbyn. Ar ol y trafaeîu cyflymaf, y mae y cyfarthiadau mwyaf yn wastad. II. Yr amser mae i ni fod gyda'r ddy- ledswydd hon, sef yn eîn dydd hwn. Wrth ddydd weithiau yn yr ysgrythyrau, yr ydym yn deall dydd yn naturiol, sef pedair awr ar hugain: dyma sydd yn cael ei olygu yn ngweddi yr Arglwydd. Pan yn gofyn am ein bara beunyddiol o ddydd i ddydd, yr ydym yn gofyn am yr hyn sydd angenrheidiol y nos hefyd; oblegid