Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Cyf. iv.] IONAWR, 1839. [Rhíf. XXXVII. BUCHEDDIAËTH. ------♦— BYR HANES AM EDMUND PRYS, ARCHDI4CON MEIRION, Oddi ar y parch oedd gejiyf i'r Salmau cân, fel eu cyfansoddwyd gan wrthddrych yr ysgrif hon, gwnaetbyni hir ymoíyniad ara hanes bywyd a marwolaeth yr awdwr o honynt, ond nichefais hyd i ddim ond yr ycbydig canlynol, a gasglwyd (feddylìwyf) gan y diweddar Barch. T. Charles, B. A., o'r Bala, yr hyn, diâmmheu genyf, íydd hoff gan filoedd ci weled, heblaw yr eiddvnt, Gol'. "Tba dymunol ac addas yw cadw ych- ydig goffadwriaeth am wŷr enwog yn eu hoes am ddysg a defnyddioldeb yn y wlad- wriaeth, neuyreglwys. Ymaeynrhoddi hyfrydwch i feddwl dyn i wybod ychydig am hanes dynion y byddwn yncael budd trwy eu hysgrifeniadau gannoedd o flyn- J ddoedd gwedi eu marwolaeth. Gellir cyf- rif y Parcbedig Edmunb Prys, Archdiacon Meirion, yn nihlith y ihai defnyddiol i gen- edl y Cymry hyd heddyw, er ei fod wedi raarw er ys tros ddau gant o flynydd- aedd. Ganwyd ef yn nghylch A, D. 1541, yn y Gerddi Bluog, yn mhlwyf Llandecwyn, swydd Meirion. Dygwyd ef i fyny yn Ys- goldy (College) St. loan, Caergrawnt. Cafodd berigloriaeth Maentwrog, ac yr oedd yn byw yn y Tyddyn-dû, yn y plwyf hwnw. Pryd y bu farw nid yw hysbys ; oud yr oedd ar ol A.D. 1623. Claddwyd ef yn eglwys Maentwrog. Yr oedd yn un o'r dyuion mwyafdysgedig, a'r prydydd hyn- otaf yn ei oes; ac y mae amryw o'i gyfan- soddiadau ar gael eto ; y mwyaf bynod o honynt yw ei ddadleuaeth brydyddawl efo Williarn Cynwal, yn gynwysedig o bedair ar ddeg a deugain o ganiadau. Yr oedd yn ŵr tra hyddysg mewn ieithoedd ; dywed ei hun ei fod yn gyfarwydd ar wyth o ieithoedd. Yr oedd yn gyfarwydd iawn yn yr iaith Gymreig, a hen hanesiaeth y Cymry.* Dywedir ei fod yn gynorthwyol * Te laboris Aristarchum deligi, ut quem sciam nihil Britannicae cognitionis latere.nostrati UB| grammaticorum peritissimum, lfnguse patrise culterem diligenthsimam, ecclesisB Br, benevol- «ntiMjnium, meique semper amantissimum. Dr. Davies. i'r Dr. Morgan yn cyfieithu yr Ysgrythyrau Santaidd i'r iaith Gymreig. Yr oedd y Dr. Davies o Fallwyd ac yntau yn gyfeilî- ion mynwesol, fel yr ymddengys oddi wrth gyflwyniad ei Ramadeg iddo gan y Dr. D—. Cyfieithodd y Salmau ar fesur cerdd i'r iaith Gymreig. Ei ddull oedd, medd- ynt, cyfieithu un Salm erbyn y Sul, i'w chanu yn y llan yn y gwasanaeth cyhoedd- us, nes canu y cwbl cyn eu hargraffo. Er bod rhai llinellau yn anystwyth, a rhai geiriau yn annealladwy i'r cyffredin, yn nghyfieithiad yr Archdiacon Prys, eto, a'i olygu i gyd gyda'i gilydd, rhaid i bawb de- alîus ei farnu yn orchestwaith rhagorol, a'i fod yn rhoddi meddwl yr Ysbryd Glân allan mor gywir ag a wnawd neu a ellir ei wneyd mewn cyfieithiad. Y maeeigyfan- soddiad yn beraidd ei flas, yn aml ac ar- dderchawg, ac adeiladol—yn fwy addas i addoliad cyhoeddus nâ dim arall a weîodd yr ysgrifenydd yn yr iaith Gymreig hyd yn hyn. Anwybodaeth a phientynrwydd yr addolwyrsyddyn peri iddynt, yn gyffred- inol, ddewis dim arall yn eu lle. Geill caniadau ereill fod yn fuddiol i'w darllen a'u canu wrthym ein hunain ; ond yn yr addoliad cyhoeddus, mwy aidderchawg, syml, sobr, ac adeiladol yw cyfieíthiad yr Archdiaçono ganiadau peraidd ganiedydd Israel. Efe yw caniedydd Israel yn mhob oes ; y rhaj hyn y w y salmau, yr hymnau, a'r odlau ysbrydol, mewn cyfieithiadau add- as o honynt, sydd i fod yn yr eglwys fawr trwyybyd hyd ddiwedd amser. Da, yn mhob peth perthynol i addoliad dwyfol, fod mor agos i'rgairag syddbosibl. Dychryn- llyd yw clywed dynion yn canu eu cyfeil- iornâdau ; nid mawl i Dduw ydyw, ond mawl i'w dyehymygion tywyll, eu heüun- dduw eu hunain." D. S, Os gŵyr neb ddim ehwaneg am hanes y fŵr parcbedig hwn, b'yddaf dra diolchgar am ysbŷsìad o horio i roí. Nid yw yr ypryson pryd- yddol efo William Cynwal, ddim mor addas i gyf- ieithydd ardderchawg y Salma» ag y byddai ddy- muriol er adeiladaetb.