Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR A T H R A W. Cyf. 3.] AM HYDRJEF, 1838 [Rhif. 34. BUCHEDDIAETH. BUCHEDD A MARWOLAETH Y PARCH. GRIFFITH 'JONES, PERIGLOR LLANDDOWROR, YN SWYDD GAERFYRDDIN. Anwyl Gydwladwyr,—Fe'n tueddwyd i roddi yr hanes isod am y Parch. G. Jones yn yr Athraw, oblegid ei deilyngdod, fel gweinidog a gwladgarwr, i fod mewn coffadwriaeth barhaus. Y mae yn dáilys genym y darllenir ei hanes gydag hyfryd- wch a budd gan bawb.—Gol. Mr. Griffith Jones a ddisgynodd o deulu duwiol a chyfrifol ag oeddynt yn trigo yn mhlwyf Cilrhedin, swydd Gaer- fyrddin. Ei dad anwylaidd a symudwyd o'r fro ddaearol hon pan oedd ef yn ieuanc, ac o ganlyniad yr oedd y gwaith pwysig o'i ddwyn i fyny wedi y dygwyddiad gal- arus yn orphwysedig ar ei fam dyner. Yn dra chynar grym a bywiogrwydd ei gy- neddfaua'amlygwyd, a dangosodd awydd- fryd tra chryf at ddarllen, ac i gael ei addysgu yn y gwybodaethau rheidiol ac uchelaidd. Ar ol treulio ei fore oes mewn ysgol wladaidd, ei fam a'i danfonoddefi Brif-ysgol Caerfyrddin, lle y gosodwyd ef dan hyfforddiant athraw medrusadysg- edig. Yn yr ysgol hon, efe addaethyn fuan i feddu gwybodaeth helaeth o'r ieith- oedd Groeg a Lladio, er ei fod dan anfan- tais fawr, trwy fod ei gyfansoddiad corph- oiol yn wan. Ar yr amser hwn yr oedd o dueddiad tra sobr ; ac arferai yn aml i encilio i ry w fan unigaidd i weddio a my- fyrio, y« íle dylyn y difyriaethau a'r ofer- bethau ag oeddynt yn dra hudol yn eu natur, ac yn foddion tra Hwyddiannus i Jygru ac anfoesoli ieuenctid ein gwlad. Ei feddwl yn fuan a lenwyd gydag aw- yddfryd i fyned i'r swydd santaidd o weinidog yr efengyl, ac yr oedd yn wastad yn ystyried ei bod o'r pwysa'r canlyniad mwyaf. Medi 19eg, 1708, darfu i'r esgob Bull ei urddo yn ddiacon; ac yn y flwydd- yn 1709, Medi 25ain, cwbl urddwyd ef gaa yr un esgob, yn nghapel Aber- Marlais. Dangosodd yr esgob diriondeb mawr iawn tuag ato; a rhoddodd lawer o addysgiadau a chynghorion buddiolfawr a dwys. Yr oedd Mr. Jones yn meddu parch mawr a serch gwresog tuag ato oblegid tfyn hyd ei farwolaeth. 2 F Yny flwyddyn 1711, Gor. 31aki,rhodd- wyd iddo "berigloriaeth Llandeilo Aber- cowyn. Syr John Phillips, o Picton Castle, swydd Benfro, a gyflwynodd iddo Llan- ddowror, Gor. J7eg 1716. Priodwyd Mr. Jones â raerch i Syr Erasmus Philips, hanner chwaer i Syr John Philips. Mrs. Jonesa adawodd â'r bywyd hwn yn 1755, yn 80 oed. Yr oadd hi yn aml yn afiach, fel. ag y geìlir casglu oddi wrth ei lythyrau ef, a bod yntau yn yraddwyn yn dyner iawn tuag ati, ac yn ei hymgeleddu yn serchus. Dywedir ei bod yn wraig dduwioî; ac nid oedd ganddi, fel y tybir, ddim plant. Par- haodd cyfeillach wresog rhwng Mr. J. a Syr John tra y bu yr olaf byw; ac y mae sail dda i gredu fod moesgarwch y Syr yn cael ei hardd-wisgo â rhinweddau gwir dduwioldeb. Y mae amrai o lythyrau a ysgrifenodd at Mr. Jones yn cadarnhau i foddlonrwydd y dybiaeth hon. Nid oedd maes ei lafur yn cael ei chyfyngu i Llan- ddowror a Llandeilo, eithr yr oedd ef yn pregethu ar droiau yn Llanllwch, eglwys ag sydd yn agos i Gaerfyddin. Ar yr amser hyny, Mr. David Jones, ŵyr iddo, oedd yn gweinidogaethu yn Llanllwch, a hyn oedd yr achos iddo lafurio weithiau yno. Yn y lle hwn, cafodd Miss Biidget Vaughan, merch y Derllysg, yn mhlwyf Merthyr, gwedi hyny Mrs. Bevan o Laug- harne, ei hargyhoeddi o fawr ddrygedd pechod, ac o'r angenrheidrwydd i gael mwy nâ ffurf crefydd—i gael gwybodol- rwydd mewnol fod Duw ýn dad iddi. Yr oedd y ferch hon o deulu parchus, ac yr ydoedd yn dra synwyrol a hardd. Ar ol eihuniadâg ArthurBevan,ysw., oL—, aetbai bob Sabboth naill ai i Landdowror neu i Landeilo i glywed^Mr.Jones; ac er ei bod yn cael ei gwawdio am hyn, eto ni