Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR A T H R A W. Cvf. 3.J ÁWST, 1838. [Rhif 32. DUWINYDDIAETH. HUNAN-ÜWYLL Phil. ii. 12, 13. Y mae lle i ofni fod amrywiol ffyrdd trwy ba rai y mae dynion yn twyllo eu hunain. Dylynir llawer gan radd o an- ystyriaeth, yr hyn sydd hollol annghyd- wedd â;r gyfran ysgrythyrawl uchod, yn nghydag amryw ranau cyffelyb ; felly caethiwir hwy rhag talu y sylw lleiaf(mewn ystyr ymarferawl) i arddangosiadau y Testament Newydd,pa rai ydynt yn dang- os trugaredd wirioneddol.gyflawn, a rhydd, i'r edifeiriol sydd yn galaru am ei anuf- ydd-dod a basiodd, yn nghyda'i ddidduw- iaeth mewn ymarferiad cyffredinol. Heb ofalu am agwedd briodol, dywedant yn ddiystyr, "Yr ydym yn gobeithio y bydd Duw yn drugarog ;" a chan sylwi felly, ni ehymerant unrhyw drafferth pellach— ond daliant at anufydd-dod yn barhaus, gan barhau mewn amddifadrwydd o wir grefydd. Y mae dosparth arall, amgylch- iad pa un sydd yn wahanol, ond ydynt ar yr un pryd yn egluro ystyriaeth gamwedd- us : y maent wedi ymuno â rhyw gym- deithas grefyddol, yr hon sydd yn proffesu nad yw yn derbyn ond gwir gredinwyr ; personau ag y ci edant eu bod wedi eu dy- chwelyd at Dduw : ac am y byddo y per- son unwaith yn perthyn i'r gymdeithas hon, gwenieithia iddo ei hun ei fod yn ddiogel—esgeulusdod ac anystyriaeth a ffyna—ac ynlle gweithio allan ei iachawd- wriaeth mewn ofn a dychryn, y mae yn segurwr diofal yn ngwinllan Duw; yn bren diffrwyth, ac yn ddiffrwythydd y tir —diwedd pa un fydd ei dori i lawr. a'i daflu yn tân! Gwammalrs»ydd meddwl, yr hwn a hanfoda mewn ymarferiadau cref- yddol. sydd arwydd arall o'r cyffelyb eg- wyddor ;—yr hon a ymweithreda mewn ofnau rhag cyhuddiad oblegid prudd-der a achosir gan ymneillduad ; ymddangosant fel wedi eu llywodraethu i arwain bywyd trwy eithafion hollol gyferbyniol; pa un bynag, nid wyf yn siared am ymddangos- iad ailaaawl ystyriaeth yn unig, yr hwn a bortreadir mewn llais ac ymddygiad—ond am y sylwsddol a'r gwiriooeddol hefyd. Dynoda y gair iachawdwriaeth, berygl; iachawdwriaeth fawr, berygl tnawr, neu galedi caeth. Y meddwl ag sydd yn teimlo ychydig o berygl anfoddlonrwydd dwyfol, ond sydd a'i ymddygiad yn ysgafn tuag at hyny, ni argyhoeddwyd eto o ddrwg pechod ; ond gellir gofyn, "Gan eich bod yn dywedyd cymaint yn nghylch. ystyriaeth ddifrifol o eiddo y meddwl, yn ngweithiad allan ei iachawdwriaeth, pa fodd y cyfansoddir ef ? A ydym i ym- ddwyn yn brudd, sarug, ac anniddig, ac felly gwneuthur ein hunain ac ereill yn druenus ?" Na, nid felly. Agwedd ystyr- iol y m-ddwl, er nid yn gydweddol â byth- ffynolwammalrwydd ar bynciau crefyddol, eto sydd hollol gydweddol à sirioldeb a yn nghydag egwyddor o haelioni. Dengys ei hun trwy y sylw a delir i astudiaeth grefyddol, pa un bynag ai yn yr ysgrytbyr ai yn ysgrifeniadau duwiolion—trwy ein hymrwymiad mewn ymarferion crefyddol; pa un bynag ai unigol, teuluol, ai cristionogawlgymdeith- asiad, wrth fel y byddo ein cyfleusderau yn caniatau ; a thrwy i'n meddyliau ddy- chwelyd yn dàyddiol at bwnc mor ddifrif- ol a phwysig. Y difrifoldeb a'r pwysig- rwydd adganmoledig uchod, sydd mor bell oddi wrth arddangos sarugrwydd ymneillduol, ag ydyw mor agos i ganlyn llawenydd gwirioneddol a sylweddol. Yr ymadrodd, •' Ymlawenhewch mewn dychryn," a ellir gyfeirio at yr achos sydd genym mewn llaw :—trwyadl ganiatâ sir- ioldeb a llawenydd, ond hollol wrthwyneba anystyriaeth a diofalwch. IORWERTH GtAN ALED. CYFIAWNDER DÜW YN LLYWODR- AETHIAD Y BYD. Peth a ammheuir yw hyn gan lawer, ac ni chanfyddir ef ond gan ychydig, ond parod ydynt i ofyn, "Os yw Duw yn llyw- odraethu yn gyfiawn, pa fodd y canfyddir ei gyfiawnder pryd y mae cymaint o bechu yn cael ei oddef yn y byd ì" I hyo yr atebaf, 1. Nad oes dim yn llywodr- aeth Duw yn treisio ewyllys y creador ya