Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR A T H R A W. Cyi. 3.J GORPHENHAF, 1838. [Rhif. 31. DUWINYDDIAETH. DARLITH AR ANFARWOLDEB YR ENAID. RHAGYMADRODD. YcHTDrG yw gwybodaeth dyn am eien- aid, ei fawredd, ac ysbrydolrwydd ei natur; ero, gan fod dyn yn feddiannol ar enaid, a hwnw i fywbyth, dylaiystyriaethau pwys- ig o anfarwoldeb yr enaid gael eu dwyn ar gof i'r dyn pan mewn undeb â'r corph marwol, trwy yr ysbryd, yr hwn sydd yn trigo ynddo. Os prif ddyben rhagymadrodd ydyw cyf- arwyddo dyn i ddeall mater yn well, dylai gael ei wneyd fel allwedd yn gyfatebol i boll gloion y traethawá neu ddarlith. Tuag at hyny, fe allai y dylem esbonio rhyw adnodau o'r Beibl; o ran y bydd ynddynt, neu o leiaf yn rhai o honynt, gyfeiriadaullythyrenol.troellymadroddion, ac aralleg. Eithr nis gwnaf ond cyfeirio pob meddwl at yr esbonwyr mwyaf cymer- adwy gan eglwysi Crist yn gyffredinol. Gormod gorchwyl i mi fyddai olrhain cyfeiliornadau athronyddion paganaidd a'u canlynwyr, a thraddodiadau gwahanol grefyddau y byd. Bu i'r Athrofa Blatonaidd daenu llawer o gyfeiliornadau o barth i'r eneid am oes- oedd yn olynol. Democritius ac Epicurius oeddynt dra chyfeiliornus eu barn am y pwnc; mabwysiadwyd amrai o'u golyg- iadau gan Alen o Nova Scotia, Renestes Cartes, Sosinus, a'r Dr. Priestley. Dywed- ir fod beddargraffy Dr.yn cynwys tystiol- aeth benderfynol fod ei enaid a'i gorph yn cydorwedd yn y bedd. Y mae Golygydd Seren Abertawe, gweëi dangos dau gyf- ieithiad o'r un pennill, pa rai sydd yn tyst- io hyny mewn iaith. Yr olaf o honynt sydd debygi hyn:— " Yma gorwedd gwedi marw, Yn dra dethau mewn arch dderw, Esgyrn, 'menydd, gwaed, gwythenau, Corph ac enaid Doctor Priestley." Amrywiol ydyw barnau dynion am grë- edigaeth.hanfod, sefyllfa, natur, a pharhâd yr enaid. Yn awr, gan fod amgyffredion dynol yn pallu, synwyrau athronyddion yn dyrysu, a thraddodiadau gau grefyddau yn camdystiolaethu, pwy all feio yr hwn na chred ond Tad yr ysbrydoedd ei huaan ? Tybiwyf fod yr athrawiaeth o anfarwol- dcb yr enaid yn nrych yr ysgrythyrau santaidd yn amlwg. Cyn gadael y Rhag- draeth, dylid coffau, nad yr un peth a feddylir bob amser wrth y gair enaid. Defnyddir y gair am gorph dynol, byw- iog deimladau natur, y galon, yr einioes,. a'r oll o'r dyn, gorph ac enaid. Eithr yr yr ysbryd pur ac anweledig syëd mewn dyn, yn fwyaf priodol, a feddylir wrth y gair enaid ; y rhan sylweddol ag sydd raid i ddyn ei cbael cyn y byddo yn berson dynol, yn berchenol ar alluoedd meddyliadol, a chyn y gellir ei gyfrifyn greadur rhesymol. Yn mhellach, sonir yn y Beibl am dair marwolaeth, ysbrydol, naturiol, a thragwyddol; neu, yn hytrach, am un farwolaeth ysbrydol, gwedi esgor ar farw- olaeth naturiol, a marwolaeth dragwydd- oi: ac â'r farwolaeth naturiol y mae a wnelom yn awr. Y gorchwyl yw dangos yr anmhosibilrwydd i'r un anffawd gyfar- fod yr enaidag sydd yn cyfarfod y corph, pan yr ysgerir y corph a'r enaid oddi wrtb eu gilydd yn angeu; profi fod yr enaid mor uchel fel nas gall angeu gael gafael arno, a« y geillfyw yn myd yr ysbrydoedd yn llawn cystal, os nid gwell, nag yn y byd hwn. ANFARWOLDEB YR ENAID. Er fod tywyllwch dudew gwedi bod yn gorchuddiaw amryfath gangenau athronddysg, yn y eanrifoedd a aethant hcibio, diau genyf i gymaint goleuni dy- wynu ar y ddyrchafedig Gyfundraeth Ar- ddansoddawl (the Ontology System) yn awr, mal na chyfrifir nebun yn rhagori yn- ddi, na8 canfu wendid rhesymegyddiaeth, Athronyddion a Philosophyddion y cya oesoedd, er maint eu gorwychder yra- ddangosiadawl; ganad pa mor hyawdl yr areithient, ganad pa mor athrylithfawr y prydyddent, a chanad pa mor gywrain yr ysgrifenent; gwyddis ì'r byglod Syr Isaac Newton, ac ereill, wrth dreiddiaw i mew»