Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRA Cyf. 3.] EBRILL, 1838, [Rhif. 28. DUWINYDDIAETH. GOSTYNGEIDDR W Y D D. Traethawd ger Cymreigyddion Glyn Ebbw, ymgynulledig yn ngwestfa Arfau Beaufort, nos Gwyl Dewi Sant,gan Eiddilaf, sef Ieuan Rhys, Cydweli. Mr. Llywydd, Rhaglywydd, a Chyf- eillion mwykgu,—Gan y meddyüaf mai ffrwyth fy myfyrdod fy hun, ac nid â dys- grifìad o nodiadau neb ereillbraidd uwch- law fy amgyffred, efallai a weddai i mi aberthu ar allor y Gymdeithas Gymroaidd, ar bob achos a mater, ond yn benaf ar y 'testun presenol; cynygaf gan hyny, yr awrhon, athyn yna, heb ddwyn fy ymen- ydd yn mhenglog neb arall. Ac wrth ym- estyn idd eich anerch (yn mhlith yr amrai gyfeillion a gynygant at yr un nôd hòno) âg ychydig sylwadau anmherffaitb oddi- wrth y testun godidog rhoddedig, sef, gos- tyngeiddrwydd, teimlaf awydd ddifrifol am gael fy meddiamm yn hollol gan yr ysbryd addfwyn yma, gan y barnaf nad yw yn bos- ibl iun creadur rhesymol,o'r cerubdysgleir- iaf ynmangrepreswylfodlor, hyd aty dyn distadlaf o fewn ei eangfaith amherodraeth ef, droi yn rheolaidd yn ei briodoi gylch- dro, heb fod yn gwbl tan lywodraeth yr hyn a nodir yn y testuo. Wrth ostyngeidd» rwydd y byddaf yn deall y reddf, neu yr egwyddor lednais a boneddigaidd hòno, a lywodraetha feddwl pob creadui rhesymawl yn yr iawn olwg arno ei hun yn ngoleu deall ; a than daylanwad o'r ysbryd yma, ymddyga fel y gweddai iddo tuag at ei Grëwr a'i Gynalydd, fel uwchlaw pawb, a thuag at eu cydgreaduriaid yn ol eu gwa- hanol sefyllfaoedd, gan roddi i bawb a phob peth,y parchdyladwy iddynt. Medd- yliaf, syr, mai deall ydoedd y cwmpawd cywrain a roddodd doeth Luniwr natur yn y llestr hardd hwnw, a gynwysai holl ddynolryw; ac yn niffyg gweithrediad hwn, tròdd y meddwl, y llyw nerthol hòno, j sefyr ewyllys, yn groès y dylasai, nes gogwyddo y llestr i r«deg allano'i phriodol redfa. Ac wrth hwylio felly yn nghanol niwl tew a thywyll hunanolrwydd, taraw- odd yn erbyn Craig gadarn yr oesoedd.nes ei darnio yn chwilfriw. Ac yn y llongddryll- iad andwyol hòno, wele Adda a'i hâd wedi eu taflu i fyny ar draeth rnawr y feildith, yn groenllymiaid noethion, ac heb feddu dim. Ac ow ! o'r holl golledion dirfawr a wybu teulu dyn am danynt, o'r awr hòno hyd hon, wele y golled fawr yma, 'ie, welegoll gwynfa meddaf, yn gyru yr oll i ddystaw- rwydd bythol. A'r holl chwyldroad aruthrol yn cymeryd Ue o ddiffyg ymostyngiad y creadur yn ei le, ac ystyriaeth ddifrifol o'r anmhosibilrwydd eithaf iddo gyrbaedd y lle yr ewyllysiai. Yn awr.syr, gan y tardda gosf yngeiddrwydd oddiar hunan-adnabydd- iaeth, a hunan-adnabyddiaeth drwy oleuni y deall, gwelwn yn "ämlwg yr achos gwr- eiddiol paham y cawn y mwyaf dealladwy bob amser y gostyngeiddiaf; a heriaf y bydoedd i ddangos i mi ddyndoeth adeall- gar yn ffroen-uchel a balch. Na, ni thyfodd y ffrwyth gwenwynig yna erioed, ond ar bren ffoHneb ac uchelfrydigrwydd ; ond y doeth a ymddyga at hob gradd fel y mae yn gweddu iddo. Gwn y dadleuir llawer yn nghylch graddoliaeth, a dywedir fod yr anffyddiad Paine, am " gydraddoli holl ddynolryw," ond ni ddeallais byny oddi- wrth ei ysgrifeniadau; ond os ydoedd, diau, syr, y cynygai at reol hollawl afresym- ol. oblegid tra byddo teulu dyn yn meddu y tueddiadau Uygredig y maent, angen- rheidiol anhebgoroî ydyw y graddoliaeth ; ond byddai cyd-raddoliaeth yn ddinystr buan ar bob trefn a rheoleiddiwch. Gyda gwir ostyngeiddrwydd dylai yr isradd ym- ostwng i'w uwchradd, gan ystyried ar- glwyddiaeth ac awdurdod yn ddoeth drefn Llywiwr y bydoedd; ond gwrthwynèbaf dra-arglwyddiaeth hyd eithaf fy ngallu, am nad yw yn sylfaenedig ar unionder, ac ymostyngiad iddi a fyddai yn warth a dir- rayg» ie» yn annghyfìawnder yn y creadur rhesymol. A chreffwch, syr, yr hwn a wertho neu a bryno ei gyd-ddyn er cael tra-atglwyddiaeth arno, sydd leidrdyn; ac os yw Ilymder cosp yn ddyladwy i ladron arian a meddiannau, pa faint mwy medd- wch i ladron dynion? Yn awr, syr> ër yr addefaf fod gradd y pendefig yn gofÿrí yr ,un gradd yn aelod cymdeithas iddo, cto, sylwer nad yw eî uẅchradd méẅn ìiti