Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR A T H R A W Crr. 3.] CHWEFROR, 1838, fltHIF. 26. DÜWINYDDIAETH. DUWDOD CRIST. (Parhâd 3. Gelwir ef yn Jehofa Angel,—' Ac angel yr Arglwydd (Heb. Angel Jehofa, neu JehofaAngel*) a ymddangosodd iddo mewn fflaro dàn o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn îlosgi yn dân, a'r berth heb ei difa. A dywedodd Moses, Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw y berth wedi llosgi. Pan weiodd yr Ar- glwydd ei fod ef yn troi i edrych, Duw a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywed- odd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi. Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma : diosg dy esgidiau oddi am dy draed; o herwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear santaidd. Ac efe a ddywed- odd, Myfi yw Dow dy dad, Duw Abra- ham, Duw Isaac, a Duw Jacób. A Moses a guddiodd ei wyneb: oblegid ofni yr yd- oedd edrych ar Dduw, Ex. iii. 2—6. Yn yr adnodau yma fe'n dysgir i'r Jehofa Angel ymddangos i Moses yn y berth, ac iddo ddywedyd, Myfi yw Duw Äbraham, Duw lsaac, a Duw Jacob. Yn awr, y mae y gair angel yn arw yddo un anfonedig, neu genadwr, ac o ganlyniad yn dynodi person yn anfon. Gelwir y person anfonedig yn y fan yma yn Jehofa, ac a eilw ei hun yn • Y mae yr yraadrodd " angel yr Arglwydd" a geir mor fynych yn yr Hen Destament, yn gyf- ieithiad tra annghywir o'r testun gwreiddiol, ac yn hoHol dueddol i arwain y darllenydd cyffredin i dybied fod yr Arglwydd a'r angel yn bersonau gwabaniaetbol; yr hyn nid yw mewn gwirionedd. Y gwreiddiol yw malach Jehofa. Yn awr, nid gair urddasol yw y galr a gyfleithir Arglwydd, yn dynodi cyûwr neu sefyllfa ; ond yr enw an- ughyfranogoi Iehofa. Ac nid yw yr enw Iehofa yn yrachos meddiannol, (pos. cate,) fel yr ym- ddengya «ddiwrth cystraweniad y Gymraeg : ond y mae y gair lehofa a'r gair nialach, (angel,) yn enwau priodol mewn cyferbyniad aryr un person, un yn dynodi ei hanfod, a'r llall ei gwydd. Dylid dangos yma »a iodd y mae y gair angel yn dynodi swydd. Efallai na wyr fy holl ddarllenyddion mai bastàrddairyw angel o'r gair GroègAnggelos, yr hwn nydd yn arwyddo un anfonedig, neu gen- adwr, o ba un y deillia anggelia, cenadwri, ac anggelô, dywedyd cenadwri. Pe catiiataid i mi roddi cyfielthiad Cymreîg o'r ymadrodd malach lehofa, meddyliwyf inai y goraf fyddai Iôr Genadwr; eanys arwydda Iôr, yr hwn sydd yn hunaii-i'odol, heb ddechre na diwedd. Feíly uid gwych y darfu 1 gyfieithwyr parchus eltrfteiblŵi ddefnyddio am Adonaî, Arglwydd, mewa araryw o leoedd. tudal. 3.) Dduw Abraham. Ond y cwestiwn yw, pwy yw yr angel y sonir am dano yn y testun? Dywed Stephan, (Act. vii. 35.) mai yr un ydyw ag a anfonwyd © flaen cenedl Israel, i'w harwain o'r Aipht i Ganaan. Ond pwy oedd y person a anfonwyd ? Tröwn i Sal. lxxviii. 56, lle y mae y Salmydd yn son am yr amgylchiad dan sylw ; fe ddywed am yr arweinydd, mai y Duw Goruchaf yd- oedd—' Er hyny temtiasant a digiasant y Duw Goruchaf,'ada. 56, gwel hefyd y cyd- adnodau. Ond eto, pwy oedd y Duw Goruchaf y sonia y Salmydd am dano ? Wrth draethu am yr un amgylchiad, dy- wed yr apostol Paul, mai Crist ydoedd; ' Ac na themtiwn Grist, megys ag y temt- iodd rhai o honynt hwy, ac a'u dystryw- iw}-d gan seirph,' 1 Cor. x. 9. Ond gadewch i ni edrych eto beth yw cymeriad yr angel hwn: ' Wele fi ynanfon angel o'th flaen i'th gadw ar y ffordd, ac i'th arwain i'r man a barotoais. Gwylia rhagddo, a gwrandaw ar ei lais; ac na chyffroa ef: canys ni ddyoddef eich anwir- edd: (neu yn hytrach, fel yn Saesonaeg, nifaddeu efe eich troseddau:) oblegid y mae fy enw ynddo ef, Ex. xxiii. 20, 21. Oddiwrth yr adnodau hyn, y mae yn amlwg, 1. Fod yr angel yma ág awdurdod ganddo i faddeu pechod, yr hyn o angen- rheidrwydd sydd yn dynodi ei fod yn Dduw; canys gan bwy y mae awdurdod i faddeu pechod, ond gan Ddüw ei hun ? Ac, yn 2. Fod enw Duw ynddo. Pan y mae Moses yn gofyn i Dduw am ei enw, (Ex. iii. 13,) fel y gallai ei gyhoeddi i feibion Israel; atebir ef gydag Ydwyf yr hwn ydwyf^ yr hwn sydd o'r un arwyddocâd a Jehofa, fel y dangoswyd o'r blaen. Gan hyny, rhaid fod yr hwn a anfonwyd o'r un sylwedd ac hanfod a'r hwn a anfonodd; canys yn Es. xlii. 8. dywed Jebofa, Myfi yw yr Ar- glwydd; dyma fy enw: a'm gogoniant (neu fy eato) ni roddaf i arall, na'm mawl i ddelwau cerfiedìg. Felly, oddiwrth yrys- grytbyrau a nodwyd, y mae ýn amlwg mai yr un yw Jehofa Angel Moses; Duw Goruchaf ySalmydd; a Christ Paul; a phwy yw hwnw, ond Iesü o Nasareth? Y mae hyna yn ddigon, yn angraifft o ym-