Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Cyf. 2 3 RHAGFYM, 1837. CRhif 12 DARLITH AR DDYSGEIDIAETH. A draddodwyd ger Cymreigyddion Glyn Ebbw, ymgynulledig yn Ngwest/a arfau Beaufort, nos Fawrth, y 10/ed o Ionawr, 1837. (Parhâd tudal. 163.) Dim ond bwriwn fer-olwg ar berchen deall, efallai yn ei fwthyn gwael, gwedi goiphen ei orchwyl caled, wrth oleu can- wyll ffyrling yn gallu gweled y bydoedd a'u haneirif luoedd, heb gyffro oddiar ei ystôldeir-droed, efallai; ac nid yn unig y gweledig fyd, ond yr anweledig heí'yd. Gwelaf ef yn ymaflyd yn Nrych y Ddaear a'r Ffurfafen, o waith ein hybarch gyd- wladwr Matthew Williams, ac yn ei roddi ar y bwrdd, gan ei ddefnyddio mal ysp'i- en-ddrych niawr y Dr. Herschel ; tremia drwyddoar yr aneirif fodau a grogant yn y gwagìe anfesurol, yn wib-ser, yn sef- ydlog-ser, a phob graddau ; ond syila yn fwy neiüduol ar yr haul mawr, ffynnonell ysplenydd yr holl oleuni, yn troi ar ei beg- wn yn yr un man, ac yn çwasanaethu yn ganol-bwnc sefydlog i'r bodau ereill i droi oddiamgylch iddo, gan dderbyn eu goleuni oddiwrtho. Gwel holl fodau y gyfun- draeth heulawg, o Sadwrn bell a'i fodrwy hyd at y lloer a'n bydysawd ninau. Tremia yn graff ar y lioer", a gwel mai byd tywyll ydyw, yn derbyn ei goleuni oddi- wrth yr haul; ac mai symudiad y byd- oedd i gysgod eu giiydd sydd yn peri y diffygiadau a'r newidiau. Gwel eto mai mynyddoedd a dyffrynoedd yn y Hoer yw y mànau duon a welwn ar ei hwyneb ar- ianaidd; ac nid y dyn a dorodd y Sab- both, â baich o ddrain ar ei gefn, a'r ci ar ei ol, mal y dywedai fy mam-gu wrth fy mam pan yn blentyn. Try ei ddrych yn is i lawr, a gwel y ddaear yn crogi megys ar ddiddim yn y gwagle annherfynol, ac yn troi ar ei pheg- ynau o ddeau i ogledd mewn 365 o ddiwr- nodau, er gwneuthur, yn ol ei dull hir- grwn, wahanol dymorau, yn nghyd â hir- ddydd a byr-ddydd, haf a gauaf, oerni a gwres; ac ar yr un pryd eto o orllewin i ddwyrain mewn 24ain o oriau, sef ei thro diwrnodol, er gwneuthur dydd a nos i'w | thrigolion ar bob wyneb iddi. Rhyfedda ' eto pa fodd y mae y rhai sydd ar ei hwyn- eb isaf, pan y byddom ni yn uchaf, yn gallu sefyll yn syth, a'u traed atom ! trwy y cyfrwng yma, sef Darllen, gwel mai effaith deddf pwys a thyniad ydyw, a bod y cwbl yn tynu at y canolbwnc mawr i gan- 2 A ol y ddaear. Tery ymchwil eto yn ei feddwl am achos mellt a tharanau, y rhai a ddychrynant natur y cryfaf o ddynion; yna ymafia yn y Diwygiwr clodwiw, a gwel trwy yr un cyfrwng eto yn narlith yr enwog Martyn J. Roberts, Yswain, mai effeithiau trydaniaeth (electricity) yw yr holl gynhyrfiadau dychrynllyd yma; ac mai tarawiad y llif trydanawl wrth y cy- mylau yn eu dianpfa rhyngddynt, yw yr achos o'r holl dwrf; ac mai nid dŵr a thân yn cyfarfod eu gilydd, mal yr ofer siared gwrachaidd ddynion. Gwel hefyd natur galfiniaeth ar y corph dynawl neu anifeil- aidd, yn nghyd à llawer o bethau buddiol eu gwybod, rhy faith eu henwi yr awrhon. Er cael allan achos daeargrynfäau, myn- yddoedd tanllyd, trai a llanw y môr, cor- wyntoedd. a phoethwynt ystormus, yn nghyd â holt ryfeddodau aneirif natur, cymer afael yn y lamp oleuwych yma, sef Darllen, a derbyn oleu ar y cwbl. Ymeifl eto yn Naearyddiaeth y clodfawr Roberts, o Gaergybi, a gwel yr holl fyd- ysawd wedi ei fesur a'i ddarlunio. Gwel bedwar parth byd, a'u holl wledydd eang, a'u lluosog gyfaneddwyr, eu lliwiau, eu hymarferiadau, .ei hamherodraethau, eu teymasoedd, eu crefyddau, eu llywodr- aethau, yn nghyd â'u gwahanol dafodiaeth- au. Tiy eto o'r byd rhesymol i'r byd aniíei'aidd ; sylla ar yr holl luoedd o gre- aduriaid, yn çarnoliaid, o'r cawrfil an- ferthol yn nghrasdir Affrica, dannedd yr hwn ydynt ugeiniau o bwysau ac o ifor- aidd ddefnydd, hyd at y morgrugyn bych- an yn ein tir ninau; eto, gwel yr ym- lusgiaid, o'r Lyboia braff yn anialwch Nubra, yr hon, meddant, a sugna ei hys- g'.yfaeîh ati trwy dyniad ei hanadl, ac a'i llynca yn fyw, hyd' at yr abwydyn diniw- ed a sethrir genym liw dydd heb ei gan- fod; yr ehediaid eto, o'r eryr mawr Amer- icanaidd, a eheda i'r eangderau âg oen newydd ei fwrw yn ei ewinedd, hyd at y dryw bach a fritüa berthi Gwyllt Walia. Try ei olwg eto, a gwel ei dinasoedd, ei threfydd, ei chof-adeiladau, a'i phalasau gwychion; ac wedi syllu ar ei hafonydd mawrioü a'i ffynnonau llesol, yn nghyd â'r mynyddoedd uchel a wisgant y cymylaa.