Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Cyf 2 ] TACHWEDB, 1837. [Rhifll DARLITH AR DDYSGEIDIAETH. Á draddodwyd ger Cymreigyddion Glyn Ebbw, ymgynulledig yn Ngwestfa arfau Beaufort, nos Fawrth, y lOfed o Ionawr, 1837. (Parhâd tndal. 147.) Ond cyn gadael y dosparth yma cynyg- *f ateb y brif wrthddadl a fynych godiryn erbyn ysgrifenu y lân Omeraeg. Clyw- af un yn dywedyd fod y cwbl o faterion o bw_vs mewn gwlad ac eglwys, yn cael eu dwyn yn mlaen yn Saesnaeg, a phob cyf- rinachau,braidd,rhwng dynion, hydyn nod Cymry, yn cael eu dwvn oddiamgylch ynddi, aphawb, braidd, yn medru ei siar- ed; ac o ganlyniad, ei hod hi yn llawer mwy useful; pa les, gan hyny, yw dysgu yrOmeraeg? Pwyywhwn? agododdHen- gist ei hunan oddiwrth y meirw ? Nid un o feib Gwalia, gobeithio ydyw. Pawb, aiê ? Gwelaf ei bod yn fwy defrjyddiol iddo ef yn wir, oblegid methodd ef siared naw gair hebddi: dyma Gymro glân! Och, cywil- ydd. Beth, am ei fod yn diystyru ei iaith, dywed fod pawb, aiê ? Gan fod llawer o'n masnach rhyngom a'r Saeson, addefaf fod yn rbaid ymwneyd â hwy yn yr iaith a ddeallant; ond pa achos i Gymro ei siar- ed wrth Gymro arall, dywed? A wyt ti yn tybied y lân Omeriaeth yn werth i'w harddel, druan tlawd ? Dos i'r dinasoedd mawrion, a gwel yr anrhydedd a gyfrif Cymro ei fod yn Gymro ? Clyw y mas- nachwyr a'r crefftwyr, cymeradwy a chyf rifol, y'n prynu ac yn gwerthu yn y bur Omeraeg; gwel y boneddigion o Gymru,yn y brif-ddinas, yn prynu gyda Chymro, am ei fod yn Gymro ; gwel hi yn y brif-ysgol ynLlanbedr, yn eisteddgyda y pendefigion, ac yn cael ei choleddu yn barchus gan y dysgedigion yno; gwel hi yn y llys cyf- reithiol, yn cael ei harddel gan ei ar- glwyddiaeth y Prif Ynad Bosanquet, pan ydoedd y cyfieithydd wedi cyfeiliorni; dy- wedai, fod yn warth na wyddai ei iaith; ac er yn Ellmynwr o genedl (mal y clywais), rhoddodd y priodol air, wedi i'r Cymro fethu. A thi, druan, sydd yn ei barnu i golledigaeth, efallai na wyddot pa fodd i brynu mesur o haidd, i gael bara i dy deulu, ynddi yn iawn ! Atolwg. pwy yw yr holl foneddigion anrhydeddus, a'r holl enwogion a ymgasglant i'r Eisteddfodau a'r cymdeithasau ardderchog yma a thraw trwy Wyllt Walia, gan gyfranu eu haur a'u harian,a'r tlysau gwerthfawr yn lluosog, er meithrin achos yr anwyl a'r odidog Omeraeg ? Os ydyw mor ddiddefnydd ag y myn rhai ei bod, pa fodd y mae y doeth- ion yma gwedi colli cymaint? Atolwg, & ydyw y bobl yma i mewn " yn mhawb" y Shon bob ochr a nodwyd. Yn wir, gyfeillion. er bod yr amser yn myned yn faith, rhaid i chwi genadu i mi ofyn i'r bradychwr yn awr, (cefnder Judas Iscariot, dybiaf,) pe byddai mal y mae efe yn nodi, ai cyfiawn ai annghyfiawn ei bod hi felly ? Ai cyfiawn, meddi di, fyddai pe cyntunit ti am ddarn o dir am ryw amser, yn dy iaith dy hun, bod yr ysgrif-rwym am y tir yn cael ei hysgrifenu oll yn y Saeson- aeg,a thithau yn arwyddohòn», ae yn ym- rwymo i gadw ei holl ammodau; ac er ei darllen i ti, eto, am na ddealli yr iaith, ni wyddot pa beth yr wyt yn ei wneuthur ? Eto, ai cyfiawn fyddai, pe cam-gyhuddid dj o ladd dyn, fod dy holJ gŵyn yn cael ei drin yn y llys, dy fater yn cael ei draddodi i'r rheithwyr, a thithau heb ddeall mwy nà hwythau—anerchiad y barnwr na hol- iad y tystion; a phan y gofynid i ti am ddweyd drosot dy hun, y byddi yn gorfod tewi, am na ddealli yr iaith ? Ai cyfiawn hyn, atolwg ? Eto gwelaf un o weision y Sefydliad gwladol yn cael ei alw at ymyl gwely un o'i blwyfolion ar fin angeu ; ac am na fydd yn deall yr Omeraeg, ymeifì yn y LlyfrGweddi Cyffredin, a darllena rhỳw araeth hirfaith o hwnw i'r claf, yn Saes- naeg; bydd yntau yn gwrando. druan, am ei fywyd,ond o ddiflyg deall o hono yr iaith, yn methu dal dim. Nid gwaeth genyf pa beth a ddywed bonglerwyr y byd i gyd, gwaeddaf yn llawn dychryn, Dyma eithaf- ion annghyfiawnder! Ond efallai y dywedir fod y pethau a nodwyd yn profi ac yn dangos yr angen- rheidrwydd o wybod y Saesnaeg; dywedaf nad yw, ond cybelled ag y mae annghyf- iawnder yn gosod rhaid. Yn awr, gan nad yw pawb, ac nas geill pawb wybod y. Saesnaeg, mwy nag yw pawb o'r Saeson yn gwybod yr Omeraeg, gofynaf, pa un hawddaf, codi pawb o'r hil Omeraidd i wy- bodaeth o'r Saesnaeg, a pha un cyfiawnaf, neu godi dynion yn deall yr Omeraeg i drin y pethau a nodwyd, ya nghyda phob peth angenrheidiol aralJ yn yr iaith Omer-