Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Cyf 2 ] 3IED1, 1837. [Rhif9. ARAETH DDIRWESTOL. Fod cymdeithasau yn cael eu sefydlu yn ein gwlad ag sydd á thueddiad a'u hunig ddyben i iachau y byd o'i afiechyd triphlyg, sydd destun llawenydd nid bychan i bob dyngarwr. Y mae golwg ar y natur ddynol wedi eu diraddio trwy ynfydrwydd eu rhywogaeth eu hun i wrthddrych sydd yn meddu golwg gywir ar uchafiaeth eu natur yn scale crëedigaeth, yn peri galar dwys, atheimladau o dcsturi, oherwydd y fath ddarostyngiad, ac yn creu dymuniadau gweithgar a deffrous am drefn u neu wneuth- ur defhydd o foddion a drefnwyd i'w had- feryd a'u sefydluyn eu huchafiaeíh cièedig- ol. Y mae yn cadw golwg manwl ar yr afiechyd a fyddo yn fFynu fwyaf ac a ym- geisia yn egn'iol trwy foddion a ym- ddengys yn debygol i attal ei lwydd, a symud ei achosion. Fel meibion Issacar, yn deall yr amseroedd i wybod pa beth ddylai gael ei wneuthur, gan fod cyfnewid- iad amgylchiadauyn galw am gyfnewidiad ymddygiadau. A hyfryd ydyw genym weled hyn yn cael ei ddangos yn amlwg yn y dyddiau yma, yn sefydliad yr amryw- iol gymdeithasau sydd yn eu natur yn am- canu at hyn. Yn mhìith pa rai y mae y gymdeithas Ddirwestol i'w hystyried yn ateb yn gyflawn yn ei natur i effeithio yr hyn y mae hi yn amcanu ato. Os gweith- redir yn ol ei hegwyddorion, yn ddiau fe eäeithir ei dyben gogoneddus. Y mae ein gwlad yn bresenol yn ymboeni dan afiech- yd naturiaethawl, moesol, a meddyliawl, yn cael eu cydgysylltu trwy yr un weithred oddefnyddio diodydd meddwawl, yr hyn nis gall lai nag effeithio yn niweidiol ar yr holl gyfansoddiad, chwanegu tueddiad Hygredig, a'i ddwyn yn agored i gyflawni pob pechod yn un chwant, ac analluogi Peiriannau y corph, pa rai sydd gyfrwng gweithrediad y meddwl, i gyflawni eu gwahanol swyddau, athrwy hyn y mae y ceadur rhesymawl yn cael ei ddarostwng i anallu naturiol i gyflawni ei waith priod- awl. A gwaith y gymdeíthas yma ydyw ceisio sefydlu dyn fel creadur rhesymawl niewn cyflwr ag y gall bob amser weith- redu yn ol hyny. Yr unjg beth ag sydd yn gwneuthur gwahaniaeth rhwng dyn ac anifail a ddyfethir, ydyw y galluoedd rhesymol y mae yn ei feddu, yr hyn sydd yn ei gymhwyso i fod yn greadur cyfrifol: a chan mai hyn sydd, dylem o barch i ein Creawdwr, ac oddiar barch a gwybodaeth a?ti ragoriaeth ein natur, ochelyd cymeryd yn gyffredinol imrhyw beth a aìl ein ham ddif'adu o hyn, oblegid fe bery ein cyfrif'- oldeb, er i ni analluogi ein hunain i ym- ddwyn fel y gofynir genym. Y mae edrych- iad yr Arglwydd ar bob amrantyn o oes dyn, a chyda'r manylwch mwyaf yn j gofyn perffaith ufydd-dod, ac nid ydyw I bod dynion yn dwyn eu hunain i sefyllfa j nas gallant gytìawni yr byn a ofynir gan- i ddynt, yn eu rhyddhau oddiwrth eu cyfiif- J oldeb. Fe ofynir cymaint o weithredoedd I synwyrolgany meddwynpenaf yn y wlad, I ag a ofynirgan y dyn mwyaf sobr, yn ol J y gaiìuoedd y maent yn feddu, er fod y i meddwyn wedi darostwng ei hun i gyflwr I nas gall weithredu yn synwyrol. Fe ofyn- j ir yr un iawn ddefnyddiad o amser gan y meddwyn sydd yn treulio mwy nâ hannêr ei amser mewn sefyllfa oanmhosibilrwydd i'w gyfìawni, ag a ofynir gan y dyn sydd mewn cyflwr i aìlu ei iawn ddefnyddio. Fe bery ein cyfrifoldeb er i ni analluogi ein hunain i ymddwyn fel y gofynir gen- ym. A chan fod mewn diodydd meddw- awl allu i effeitîiio fel hyn ar y cyfansodd- iad,onid anaddaso'rmwyafydyw gwneuth- ur defnydd cyffredin o honynt ar bob aahlysur, gan fod yn ddichoua'dwy iddynt effeithio mor echryslawn ? Fy meddwl ydyw na ddylem gyffwrdd à hwy ond yn unig ar achlysur pan byddo gwir angen- rheidrwydd (a hyny drwy gynghor medd- ygwr), o herwydd mai anturiaeth ihy ryfyg- us ydyw chwareu â'r fath bethau sydd yn peri canlyniadau mor arswydus. ^mìwg gan hyny i fy meddwl i ydyw mai ein dyledswydd fel creaduriaid, acyn neilldu- ol fei cristionogion, ydyw cefuogi y gym- deithas dra rhagorol yma, ganmaiei ham- can a'i dyben ydyw troi y byd ofeddwdod i sobrwydd, a thrwy hyny gynorthwyo i sefydlu dyn yn ei uchafiaeth crëedigol. Nis gali y gymdeithas yma gynyddu an- foesoldeb, y mae hi gwedi moesoli, a'i ffrwyth naturiol a raid ddysgwyl oddi- withi, ydyw moesoli. Nid ydyw yn am- canu at ddim ond hyn. A chan fod hyn yn ogoniant i wlad, ac yn harddwch i gre- adur, yrwyf yn appelio at bob dyn ystyr- iol, ai nid ein dyledswydd ydyw rhoddi y cynorthwy mwyaf iddi: un peth o ddau y mae yn rhaid i ni benderfynu yn ei gyleh ; naill mai ein dyledswydd ydyw ei phleid- io, neunadyw. Ond cyny gellir dyfod i benderfyniad nad ydyw, rhaid nad ^oes cyfatebolrwydd yn y gymdeithas i ateij