Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Cyf 20 AWST, 1837. [Hhif, 8. AR DDATGUDDTAD. Traethawü 2.— NATUR, GALLUEIDDRWYDD, A THEBYGOLRWYDD DATGUDDIAD. Oddiwrth annigonolrwydd cyfaddefed- ig- y rheswm dynol, yr ydym yn casglu fod Duw yn hollol anadnabyddus nes iddo ddatguddio ei hun; felly, yn y cyffelyb fodd, ein perthynasa'n rhwymedigaeth iddo ef, ei ewyllys ef a'n dyiedswydd ninau, y gospedigaeth ddyledus i ddrygioni, a gwobrwyon rhiçwedd, ydynt anadnabydd- us nes eu da»guddio. Gan hyny, y mae y Goiuchaf, o dosturi at anwybodaeth a gwendid dynion, wedi gweled yn dda i wneuthur datguddiad o hono ei hun, can gystal ag o'r holl bethau hyny ag sydd gysylltedig â'n dedwyddwch presenol a thragwyddol. Datguddiad a ddarlunir i fod, " Yn gyfranogiad goruwchnaturiol oddiwrth Dduw i ddyn ; trwy yr hwn y'n dysgir yn ewyllys Duw mewn pertbynas i ni, am yr hyn yrydym i gredu a gwoeuth- ur ; pa fodd yr ydym i'waddolief; pa beth y gallwn obeithio oddiwrth eidrugar- edd, neu ofni oddiwrth ei anfoddlon- rwydd." Nid yw yr Hollalluog wedi gweled yn addas i amîygu ei hun trwy ddatguddiad digyfrwng i bob dyn ; eithr yn benaf trwy Adda, Noa, Abraham, ac ereill yn mhlith y patrieirch; ynagan Mosesa'r propbwydi; ac ar ol hyny gan Grist a'i apostolion, y cyhoeddwyd ewyllys Duw, mewn gwahan- ol raddau, er lles yr hil ddynol. (Heb. i. 1, 2.) Nid oedd nodwedd moesol y goruch- wylwyr yn myned yn ddisylw yn y gor- uchwyliaethau hyn o drugaredd : yr oedd- ynt yn ddynion fFyddlon a santaidd. Yr oedd gan yr Iuddewon ddywediad hynod, sef bod ysbryd prophwydoliaeth yn gor- phwys yn unig ar ddynion o serchiadau pur a rheolaidd, tueddiadau pa rai oeddynt addfwyn q, darweddadwy. " Oblegid efe [yr Arglwydd] a geir gan y rhai ni themt- iant ef; ac a ymddengys i'rrhainian- nghredant iddo. Canys meddyliau trofa- us a ddidolant oddiwrth Dduw ; eithr rhin- wedd brofedig a gerydda yr ynfydion. .0 herwydd nid à doethineb i enaid dryg- ionus ; ac ni chyfanedda hi mewn corph caetli i bechod. Oblegid santaidd ysbryd addysg a ffy oddiwrth dwyll, ac a ymedy & ineddyliau annghall; ac a gystuddir Ue y delo anwiredd," Doeth. Sal. i. 2—5. *Tf mae yn wir fod anghreifftion wedi I dygwydd lìe y darfu i Dduw ddefnyddio j dynion drygionus fel offerynau yn y cyf- j ranogiad o'i ewyllys; (^Nurn. xxiii., xxiv. ; j I Bren. xviii. 26;) feí hyn yn sicrhauhyd I yn nod eu bod hwy dan eireoliad. Y fath ; anghreifttion, modd bynag, ydyní anaml a ! neillduol, ac wedi eu bwriadu i ddybenion | arbenig. j Y rhai hyny ag ydynt yn cyfaddef bod- j o'aetb Duw, ei allu, ei ddoethineb, a'i I ddaioni, nis gallant ameu fod ganddo allu I i wneuthur datguddiad o hono ei hun i j ddyn. Canys osyw y gallu hwnw yn an- | feidrol, y mae o angenrheidrwydd yn ! cyrhaedd at bob peth nad yw yn wrthddy- j wediad. Y mae yn rhaid gan hyny ei fod ! o fewn gallu yr Hollalluog i gyfranu i feddwl dyn y drychfeddyliau hyny ag ydynt angenrheidiol er ci addysgiant. í ganiatau bodoìdeb Bôd hollalluog, a gwadu fod ganddo y fath allu, yw yr afresymoì- deb mwyaí arwýnig. " Oni chlyw yr hwn a blanodd y glust ? ac oni wêl yr hwn a lun- iodd y Ilygaid?" Yr hwn sydd wedi rhoddi i ddyn enaid anfarwol a rhesymoì, cynysgaethedig â'r fath gyneddfau rhy- feddoì, ao wedi ei alluogi i drosglwyddo ei feddyliau i ereiìl trwy lefariad, neu ar- wyddion, neu ysgrifeniad, ac fel hyn i gynhyrfu yn y modd mwyaf rhyfeddol meddwl a serchiadau ereill, onid oes gan- ddoefallu. os ewyllysia, i ddatguddio ei hun i'w greaduriaid ? Pob peth sydd wrth ei law. 011 ydynt ei weision. Gellir defnyddio angelion feî ei offerynau; neu, " fel Duw ysbrydoedd pob cnawd," efe a all weithredu ar ddarfelyddion dynion; neu efe a all wisgo ei gyfranogiadau â llais; neu, os yn angenrheidiol, trwy ddirgel-sibrwdiadau, heb gynorthwy ar- wydd na sain, efe a all wneuthur yn hys- bys ei fwriadau a'i ddybenion grasol tuag at feibion dynion. Y mae yn hollol mor eglur fod dat- guddiad oddiwrth Dduw yndebygol, pan yr ystyriom fod dyn yn oruchwyliwr 'moe'sol', ac o ganlyn'iad yn alluog i weith- reduyn dda neu yn ddrwg, yn uniawn neu yn gyfeiliornus ; fod pob gweithred foesol yn cytuno â, neu yn gwrthwynebu rhyw reol neu gyfraith ag sydd yn penderfyuu ei natur; a bod dynion, hyd yn nod yn