Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Cyf. 2.3 MAWRTH, 1837. iRhif. 3. DARLITH DUWINYDDOL, AR FRADYCHIAD IESÜ GRIST. (Parhâd 4. Fe gyflawnodd Judas ei fradychiad heb un brofedigaeth gwerth ei henwi, i'w gymhell i hyny. Nid ydym yn cael fod unrhyw wobr wedi ei haddaw gan yr archoffeiriaid i'r neb a fuasai yn tra- ddodi Crist i'w dwylaw. Ac, hefyd, nid oeddynt wedi anfon am Judas, i'w annog a'i gymhell i fradychu ei Feistr. Efe ei hun a aeth at yr archofFeiriaid, heb neb yn ei annog na'i gymhell, oddieithr ei galon dwyllodrus a drygionus eihun, a Satan, gan ofyn iddynt, beth a roisent iddo ef am ei draddodi i'w dwylaw ? Yna hwy a gynygasant iddo ddeg-ar-hugain oarian ; hyny yw, tair punt, wyth swllt, a phump ceiniog o'n harian ni; sef, gwerth caeth- was neu was cyffredin, Exod. xxi. Megys ag y cýmerodd Crist arno ei hun agwedd gwas, felly ei einioes a brisiwyd i'i un faint ag «inioes gwas cyffredin. Mae i'w weled yn ryfeddod, fod yr archoffeiriaid heb gynyg mwy am einioes ein Hiachawdwr, ac hefyd i Judas gymeryd gan lleied, pan ystyrier fod ei gybydd-dod ef mor fawr a'u cynddaredd hwy mor erchyll. Pa fodd gan hyny y gofynodd ef gan lleied, ac na chynygasant hwythau f #y ? Pe buasai y wobr yn cyfartalu mawredd eu malais, buasai yn ddeng mil ar hugain yn hytrach Dâ deg darn ar hugain oarian. Ond rhaid i'r ysgrythyrgael ei chyflawni; gan hyny, doethineb Duw a oruwchreolodd yr achos hwn er cyflawni y brophwydoliaeth hòno yn Zech. ix. 12. A'mgwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian. Aeth Judas at yrarch-offeiriaid, ac addywedodd wrth- ynt, " Pa beth a roddwch i mi ? "fel pe dywedasai, " Yr wyf wedi penderfynu ei werthu am ryw faint, rhowch i mi am hyny a roddoch am dano." tudal. 17.) Yregwyddor ag oedd yn Uywodraethu calon Judas i gyflawni ei hechod ysgeler, ydoedd cybydd-dod, fel y cytunodd i werthu ei Arglwydd a'i Athraw haelionus i'w elynion maleislyd, am swm mor isel a deg darn ar hugain o arian ! Ond er mor flîaidd a drygionus oedd y weithred o fradychu Crist, fe'i goruwch- lywodraethwyd hi gan Dduw, er ateb dy- benion pwysig a daionus, yn ei pherthynas â Christ a'r grefydd a sefydlwyd ganddo yn y byd. Cafodd gyfle i ddangos ei holl- wybodaeth i'w ddysgyblion, trwy rag- fynegu, cyn i'r weithred gael ei chyflawni, y person a fuasai yn euog o honi, cyn i'r dysgyblion amau ei ddiragrithrwydd. Yr oedd y weithred hon, yn ei chanJyn- iadau, yn un o'r tystiolaethau dynol cad- arnaf a gafwyd erioed o ddiniweidrwydd a phurdeb cymeriad yr Arglwydd IesuGrist. Bu JudasgydaChiistyngyson am oddeutu tair blynedd a hanner o'i fy wyd cyhoedd- us ; ac yr oedd hefyd yn dyst, nid yn unig o'i wyrthiau, ond hefyd o'i ymddyddanion a'i ymddygiad argyhoedd, Yr oedd gydag ef ddydd a nos, yn y dirgel yn gystai ag yn yr amlwg; yr oedd yn lygad-dysto holl ymddygiadau Crist, eiymddyddanion, ei eiriau, a'i holl gyfrinachau ; ac nid oes genym un lle i feddwl fod Crist wedi ym- ddwyn ynfwy gochelgar atoef nâ'rlleill o'i ddysgyblion, ond cafodd ef bob cyfleusdra manteision ag a gawsant hwythau. Er hyn oll fe fradychodd ei Feistr gyda'r anniolcligarwch mwyaf,a'rrhagrith ffìeidd- iaf; er hyny, ar ol hyn, efe a'i heuog- farnodd ei hun, ac a gyfiawnhaodd ei Athraw, gan sicrhau ei ddini^eidrwydd gyda'r prysurdeb mwyaf, gan ddywedyd, "Pechais gan fradychu gwaed gwirion."