Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Hhif. 2.] CHWEFROR, 1837. CCyf. 2. DARLITH DUWINYDDOL, AR FRADYCHIAD IESU GRIST. ün o'r pethau difrifolaf a phwysicaf a ddygwyddodd i'n Harglwydd Iesu Grist, ydoedd ei fradychiad. Yr oedd Duw wedi bwriadu rhoddi Crist i gael ei fradychu a'i îadd, ac wedi rhagfynegu trwy ei santaidd brophwydi y buasai hyny yncymeryd lle; ac yr oedd Crist ei hun wedi rhagddy wedyd mai felly y buasai, ac wedi nodi Judas fel y person a fuasai yn ei fradychu. Yn awr, sylwaf ar fradychiad Crist fel y canlyn:—Y bradychwr—mawredd eibech- od—y dull a'r modd y dyg-wyd y brad oddiamgylch—yr amser y cyflawnwyd y bradycliiad—a'r canlyniad i'r bradwr. I. Y bradychwr, Judas. Mae yr holl efengylwyr yn ei osod allan yn ol ei enw Judas, a'i gyfenw Iscariot, rhag iddo gael ei gamgymeryd am Judas brawd Iago. Darlunir ef yn ol ei swydd, yn un o'r deu- ddeg ; sef, un o'r deuddeg djrsgybl a dde- wisodd Crist. Yr ydoedd Judas, ar ryw olwg, wedi ei ddewis uwchlaw y lleill o'r dysgyblion, yr oedd ymddiriad neillduol wedi ei roddi iddo; yr oedd yn cario y gôd ; fcfe ydoedd elusenwr, goruchwyl- iwr Crista'i apostolion • ac efe ydoedd i gymeryd gofal y driniaeth angenrheidiol iddynt; ac eto, y dyn hwn, wedi ei alw i fod yn apostol, wedi ei anrhydeddu â swydd oruchel, wedi cael ymddwyn tuag ato yn barchus gan Grist; ar ol y cwbl, er mwyn ennill ycbydig arian, ynei fradychu ef trwy dwyll! II. Mawredd pechod Judas yn mrad- ychiad Crist. 1. Ymddengys pechod Judas yn fawr, wrth ystyried einatur,—"bradychu;"hyny yw, traddodi un mewn dichell i ddwylaw ei elynion, i'w niweidio. Un o'r trosedd- au mwyaf ysgeler a mwyaf fBaidd a ddi- chon dyn ei gyflawni, yn ei berthynas â'i gyd-greaduriaid, yw "bradychu.'1'' Y mae yr apostol, yn ei epistol cyntaf at Timoth- eus iii. 4, yn cofrestru bradychwyr yn mhlilh pechaduriaid rhyfygus yr amser- oedd diweddaf; a dyma y bai a gyflawn- odd Judas, ac n<td oes ei ffìeiddiaeh yn mhlith y pechodau dynol. 2. Nodtvediiad (character) y person a fradychwyd ganddo, sef gwirion; hyny yw, dieuog, difai, diniwaid. Gorfodwyd a rhwymwyd Judas gan ei gydwybod ei hun, heb unrhyw drais allanol, i dystiolaethu hyn am dano, gan ddywedyd, " Pechaìs, gan fradychu gu-aed gwirion.,, Yr oedd Crist, nid yn unig yn wirion, diniwaid, a chyfiawn, ond hefyd yn dda ; hyny yw, yn gymwynaswr haelionus i ddynion, ac wedi dyfod i'r byd i gadw pechaduriaid. Yr oedd hyn yn gwneyd pechod Judas yn fwy i raddau mawr iawn ; canys y mae yn bechod bradychu neb, llawer mwy y diniwaid ; a llawer mwy drachefn y da, y defnyddiol, a'r haelionus. 3. Mawredd ac urddas y person afrad- ychwyd. Y mae pob pechod yn cael ei ystyried yn fawr neu fach yn gyfatebol i fawredd neu fychander y person y pechir i'w erbyn. Fel hyn, y mae yn bechod bradychu dyn cyffredin; ond yn fwy o bechod i fradychu tywysog, mab y brenin, neu y brenin ei hun. Tywysog tangnef- edd, Mab Duw, a'r Brenin tragwyddol oedd Iesu, yr hwn a fradychwyd gan Judas ; yr hyn oedd yn mwyhau ei becliod i raddau annirnadwy, canys cafodd gyfleusdra a manteision digonol i wybod hyny. Gwel- odd y gwyrthiau a wnaeth Crist trwy allu . Duw, ac ni allasai ond ei gydnabod yn berson dwyfol. 4. Ymddengys pechod Judas yn fawr, wrth ystyried ei berthynas á Christ, yn nghyda'i berthynas iddo. Arglwydd ac Athraw Judas oedd lesu ; yr oedd Crist