Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Cyf. 2J IONAWR, 1837. iRhif. 1. TREM AR DDYN O RAN CYFANSODDíAD. GWYBODAETH, A MYFYRDOD. Dyn sydd greadur rhesymol, myfyrdod dyn sydd weUhrediad ei f'eddwl, a'i fedd- wl sydd weithrediad ei enaid, a'i enaid yw y rhan benaf o'r dyn. Diameu nad yw galluoedd y naill enaid yn gyd-faint â galluoedd enaid arallond fod gwahaniaeth mëwn galluoedd eneidiol, fel sydd mewn galluoedd corfforol; er hyny nid yw gallu mawr eneidiol wedi ei gysylltu bob amserâ gaîiu mawrcorffòrol; ond dygwydda weith. iau fod dyn gwan o ia;i gallu corfforol, yn ddyn cryf o ran galìu eneidiol. a phryd arall, fod dyn mawr o ran gallu corfforol, yn fyciian a gwan o ran gallu eneidiol. Nid ar faint y corffyr ymddibyna grym synwyr- au y corff ei hun : felly hefyd nid ar faint nac ar rym y corff yr ymddibyna grym cyneddfol yr enaid ; car.ys er fod corff ac enaid yn hanfodi mewn dyn, ac na all dyn fod yn ddyn hebddynt; eto galluadwy yw iddo fod yn ddyn heb gyfartalwch rhwng ei aìîuoedd corfforol ac eneidiol. Dyn hefyd sydd greadur o'r fath gyfan- soddiad agy gellir rhoddi argraff dysgeid- jaeth arno, er cynydd i'w wybodaeth fedd- yliol, a medrusrwydd i'w ymarferiad corff- orol ; ond nidcydradd athrylith y naill âg athrylith y llall i dderbyn dysg, nac i ef- elychu anghreifftiau yn y celfyddydau, nac i ymgyraedd yn feddyliol yn y gwybod- aethau ; oblegid weithiau gwelir dyn medr- us â'i fysedd i drin ei gelfyddyd, ac ar yr un pryd yn ddyn bychan ei wybodaeth, a gwanaidd ei gyneddfau : bryd arall, gwel- ir dyn yn drwsgl â'i fysedd. ac eto yn hel- aeth ei wybodaeth a chryf ei gyneddfau ; a gwelir hei'yd arall yn rhagori trwy fod yn gywrain yn ngwaith ei ddwylaw, ac yn helaeth yn ei wybodaeth, ac yn eglur a chadarn yn ei feddyiiau. Dyn, fei pechadur, sydd wedi tywyllu achyfeiliorni oddiwrth wybodaeth ysbryd- ol ; etonid yw ei bechadurusrwydd wedi ei ddifodi o fod yn ddyn ; dyn ydyw, adyn a fydd byth : ie, dyn o'r fath gyfansoddiad ag sydd addas í dderbyn a rhoddi dysg, er ei gynydd mewn gwybodaeth naturiol ac hyfforddiadol; a dyn wedi ei adnewyddu drwy ras s_vdd gristion, a christion sydd o'r fath gyfansoddiad ag sydd gynyddol ; sef, cynyddol mewn gras. Dyn helaeth o ddoniau naturiol ac ys- brydol. ac wedi ei feithrin â dysgeidiaeth fuddiol, a than lywodraeth egwyddor rasol, a'i fyfyrdod yn dyfal ymeang-u mewn gwybodaeth natnriol ac ysbrydoì, heb fod yn uchelfryd a chwyddedig, nac yn ceisio ei hunan ; ond wedi ei drwsio oddifewn â gostyngeiddrwydd a hunan-ymwadiad ; dyn o'r fath nodweddiad sydd gysur a harddwch i'r gymdeithas ag y byddo yn aelod o honi. Y ffordd gyntaf i ddjm gael gwybodaeth o'i egwyddor ei hun, yw ceisio allan natur gwrthddrych ei fyfyrdod ; a'r ffordd oraf i gael allan natur gwrthddrychei fyfyrdod ydyw, tnvy graffu, a sylwi, ac ymofyn pa beth yw y gwrthddrych at ba un y go- gwydda ei feddwl yn fwyaf cyffredinol, ac ar ba un yr erys ei fyfyrdod yn fwyaf tawel a Uonydd, a hyny yn y tri amgylch- iad canlynol:—sef, 1. Pan fyddo wrtho ei hun, allan o gyfeiilach pawb ereill. 2. Pan byddo wedi ymneillduo oddiwrth helynt- ion y dydd, i roddi hûn i'w amrantau. 3. Pan fyddo yn deffro o'i gwsg, ac yn agor ei amrantau ar oleuni dydd newydd : y pryd hyny ond odid bydd ei feddwl yn esgym neu yn disgyn at wrthddrych ei fy- fyrdod. Natur gAvrthddrych y myfyrdod sydd brawf o natur egwyddor Ij'wodraetholdyn, oblegid yn ol natur ei egwyddor lywodr- aethol, y disgyn neu yr esgyn ei enaid at wrthddrych ei hoffder, neu at wrthddrych ei gasineb, gan gofleidio mewn cariad