Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif. 13.] RHAGFYR, 1836. [Cyf. 1. GORESGYNIAD Y CYMRY GAN Y SAESON. (Parhad AcHEisiAwperswadiaw yntau i'w hanfon i'w gwiad, am hyny cafodd ei ddiswyddo ; a gosodwyd y goron ar ben Gwrthefyr ei fab,yr hwn a gyfenwÿd, o herwydd ei araf- wch a'i dduwioldeb, yn Gwrthefyr fendig- aid. Yntau a osododd gadben ar ei fyddin o ŵr graslawn, a elwid Emrys Benaur, yr hwn oedd yn rhodio o flaen Duw mewn gwirionedd, mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon. Y brenin cyntaf o'r Prydaniaid a ymladdodd â'r Saeson oedd Gwrthefyr ab Gwrtheym, ac a enniîlodd y fuddugoliaeth arnynt, a'i elynion a was- garwyd, ac a'u hymlidiodd hwynt allano'r wlad. (Buhyn o gylch y fî. 465.) Er i'r Prydaniaid ennill y maes ar y gwŷr arf- og, eto gadawsant wragedd a phlant y Saeson i fyw yn llonydd yn y wlad ; ond fel yr ydym yn dueddol iawn o wneyd drwg am dda, fel j dywed yr hen ddiareb, " Gwneler gy'mwynas i ddyn drwg, efe a dâl mawr ddrwg am dano." Felly Rhon- wen, merch Hengist, yn lle bod yn ddiolch- gar am y tiriondeb a ddangoswyd iddi, gosododd synwyr ar waith i wenwyno Gwrthefyr, ac a roddodd hanner ei thrysor i Ebissa am ddwyn y dinystr uffernol i ben: yntau a anrhegodd y brenin â thusw o flodau briallu, a mwg gwenwyn marwol wedi anadlu ynddynt. Y mae un bradwr cartrefol yn waeth nâ chant o elynion dy- eithrol, o herwydd ei fod yn adnabyddus o'r holl ddygwyddiadau. Felly Rhon- wen, y fradyches, a anfonodd genadon at ei thad i Germani, i hysbysu iddo ei bod wedi gwenwyno Gwrthefyr, a bod Gwrth- eyrn ei dad, yr hwn a ddifreiniwyd rai blynyddoedd o'r blaen, am fradychu ei wlad i ddwylaw estroniaid, wedi ei ddyr- chafu i eistedd ar ei orseddfainc yn ei le ; oblegid fe wyddai Rhonwen yn ddigon da fod Hengist a Gwrtheyrn yn gyfeillion; ac hawdd cymodi lle mae cariad. Yna cy- nullodd Hengist bymtheg mil o wŷr arfog, tudal. 163.) heblaw gwragedd a phlant, ac a hwylias ant tua Phrydain mor fuan ag a allasent, â. IIumman,neu arwyddnod heddwch, i fyny, i ddangos i'r Prydeiniaid mai nid er llid, malais, a chenfìgen, yr oeddynt yn tirio y waith hon, ond yn gynorthwy i'r brenin. Gwedi iddynt dirio yma y waith hon, gwnaed gwledd fawr rhwng penaethiaid y Cymry a phenaethiaid y Saeson, y dydd cyntaf o galanmai, yn y flwyddyn 472, ar wastadedd Caer-caradawc, lle bu brad y cyllyll hirion. Yn y wledd grybwylledig yr oeddynt yn eistedd bob yn ail, Brwtwn a Sais; a chan bob Saisyr oedd cyllell yn ei lawes, saith modfedd o hyd, ac yn nghylch hanner modfedd o led, a phum modfeddo'r saith yn ddau finiog, a'r carn oedd o as- gwrn cawrlîl. Ar ol iddynt wledda a de- chreu bod yn llawen, cododd Hengist ar ei draed, ac a waeddodd, " Nement eour Saxes," hyny yw, ymafied pawb yn ei gyllell; canys dyna yr arwydd oedd gan- ddynt. Ar hyn, dyma bob un yn trywanu ynesafatoyn y modd mwyaf didosturi, ac a laddasant o bendefigion y Cymry 460. Ond Eidiol, Iarll Caerloyw, wrth nerth troso!,a ddiangodd yn ddiberygl,ac â'r tros- ol hwnw efe a laddodd driugain a deg o'r Saeson. O syndod meddwl 1 dymay gwŷr oedd yn chwifiaw y faner heddwch, wedi troi yn farbariaid bradychus. Y Gibeon- iaid a geisiasant ammodau heddwch gan yr Israeliaid (er nad oedd hynj' ond mewn twyll), ac a'u cawsant. Felly yr un modd y Saeson a ddeisyfasant heddwch gan y Brython, ond y cwbl i gyd er twyll. Nid oedd gan y Prydeiniaid uwchlaw saith mil o wŷr arfog yn amser y dinystr uchod, a'r rhai hyny yn wasgaredig ar hyd y wlad ; yna cymerodd Hengist a'r Saeson, er gwaethafy Cymry; feddiant o swyddCent; ac efe a sylfaenodd freniniaeth yn y fi\ 475 o oed Crist; a dyma y cyntaf o'r saith- deyrn, neu y saith gorthrymwr. Er cy-