Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhip. 11.] TACHWEDD, 1836. [Cyf 1. HANES GORESGYNIAD Y CYMRY GAN Y SAESON. A GASGLWYD 0 Hanes Prydain Faicr, Drych y Prifoesoedd, a Phrydnawn- gwaith y Cymry. GAN R- EDWARDS, (Poifyson,) BRYNDU. Olygydd Siriolfwyn. Efallai mai nid anfuddiol fyddai dywedyd ychydig ar y dechre am genedl y Cymry (cyn myned at eu gormeswyr); oblegid y mae pob hanes ag a ddarllenais erioed am danynt (er mai ychydig ydyw) wedi rhoddi ar ddeall i mi, mai hwy oedd brodorion, neu breswylwyr cyntaf Ynys Prydain. Mae haneswyr cywrain yn hanes ein byd, yn profì haniad y Cymry o Gomer, ab Japh- eth, ab Noa. Am hynyyr wyf yn meddwl y gallwn ymffrostio yn ein cenedl, a'u hen- afiaeíh, a'u holrhain o Asia draw i Brydain gain, heb fod dim yn "gywilyddus yn gan- fyddadwy yn eu holl symudiadau." Gan hyny, pa Gymroag sydd yn caru ei genedl, naddywed, " Tra môr tra Brython ?" Fe ddywedir i'n cyndeidiau gael eu tywys o Asia (lle y tarddasant) i Brydain, yn nghylch y flwyddyn tri chant ar ol y dylif, gan Hu Gadarn, yr hwn, medd haneswyr, ydoedd yr hen Noa. Os daethant yma morgynar â'r amser a nodwyd, mae yn eithaf tebyg mai Noa ydoedd yr hwn a gyfenwyd Hu Gadarn; ond os buont yn hwy na'r amser crybwylledig, mal y dy- wedir gan rai, ni ddaeth yr un o honynt eiioed i'r ynys hon dan arweiniad Noa; oblegid fe ddywedir yn y gyfrol ddwyfol, iddo farw yn y fiwyddyn tri chant a hanner ar ol y dylif, (gwel Gen. ix. 28.) Ond pa un bynag ai Noa ai rhyw un arall ydoedd Hu Gadarn, dilys genyf ei fod yn " ddyn gwybodus, celfyddgar, diwyd, a da," ac idclo ddysgu ein henafiaid yn lled gywrain a medrus yn y celfyddydau gwyddorawl, ac amaethyddiaeth, i arloesi ac aredig eu tir, gyda medrusrwydd mawr, hau a medi; i oblegid yr oedd ganddynt wenith, haidd, I ceirch, a ihyg, a digonedd o ŷd i wneyd I bara, mal nad oedd achos " iddynt fyw ar | fès a gwraidd rhyw lysiau," mal y dywedir I am danynt. Mae rhai dynion yn haeru I nad oedd yr hen Gymry yn llafurio y \ ddaear cyn dyfodiad y Rhufeiniaid a'r I Saeson atynt, ac nad oeddynt ond " pag- aniaid tywyll, eilunaddolgar, diddysg, ac anwybodus yn y celfyddydau, ond rhy- fela." Ondtrwy drugaredd, fe ellir troi yrymresymiadauhyn gyda'r rhwyddineb mwyaf. Paham, meddaf, yr oeddynt, cyn dyfodiad na Rhufeinydd na Sais, yn cadw eu cyfarfodydd blynyddawl, y cyntaf o bob mis Tachwedd, i " dalu addoliad idd y tadolion dduwiau am y tymorau a gaw- sant" i gasglu yr ŷd idd yr ysguboriau, a'r lleill o ffrwythau y ddaear, yn nghyd ? Os nad oedd yr hen Gymry yn gwrteithiaw ac yn hau eu maesydd, paham yr oeddynt yn dyfod yn nghyd yn y gwanwyn i offrymu idd y duwiau, ac i geisio bendith ar y tyf- iant? Meddyliaffod geiriau un o'n hy- glod feirdd, sef Aneurin, yn ddigon i ben- derfynu eu bod yn hau a medi, pan ddy- wedodd, " Gwell gwaith cryman nâ bwa, Amlach dâs na chwareufa." Credaf yn ddigon rhwydd fod gan einhen- afiaid gymaint o wybodaeth mewn amaeth- yddiaeth, ag oedd yn angenrheidiol iddynt, ac nad oeddynt mor ddiddysg, anwybodus, a barbaraidd, ag y mae rhai yn haeru eu bod. Yr oedd ganddynt eu derwyddon, dysgawdwyr, a'u beirdd, y rhai a ganmol- ir yn fawr, ac sydd â'u henwau, lawer o honynt, mewn coffadwriaeth hydheddyw.