Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. ítHIF. 10.] HYBHEF, 1836. [Cyf. 1. NATÜR AC EFFEITHIAÜ CARIAD CRIST. (Parhad titdal. YÒO.) 2. Y mae cariad Crist yn argymhell ei , dylif? Pechod. bobi i ymddiried eu hunain a'r cwbl a ieddant i'w law. Y mae ymddiried yn canlyn caríad bob amser—ymddiried yn ngwyneb gwgu—ymddiried yn ngwyneb cospi—ìe, ymddiried yn ngwyneb cael dy ladd. Gall ugeiniau ddywedyd, " Pe "iladdai efe fi, eto mi a ymddiriedwn yn- ddo," Job xiii. 15. Y mae genym ni anghraifft nodedig o ymddiried yn Nghrist wedi ei chofnodi mewn perthynas i Luther, y diwygiwr mawr. Fe'igalwyd gan aw- durdod uchel i ymddangos gerbron rhyw lys, ac yr oedd sicrwydd ei ddiog?lwch yno ynanmheuadwy: ei gyfeillion aerfyn- íasant arno beidîo â myned yno, gan ad- gofio John Huss iddo fel anghraifft, yr hwn, mewn sefyllfa gyíîelyb, a losgwyd yn fyw. Ond dywedodd Luther, yr wyf wedi'm galw yn enw Crist i fyned, ac mi a af, er pe byddwn yn sicr o gyfarfod â chymaint o gytlireuliaid yno ag sydd o bryfed ar eu tyau ! Yr oedd hyn yn wir yn ymddiried mawr—yr oedd yma ffydd gref yn gweîthredu. Ni phrisiodd ei fyw- yd ei hun ; ei unig ddymuniad oedd treulio ac ymdreulio yn ngwaith ei Waredwr. 3. Y mae cariad Crist yn argymhell ei bobl i gasau pob pechod. Fe ddywedir i Hannibal, y tywysog, wrth orchymyn ei dad, goleddu gelyniaeth annghymedrawl yn erbyn y Rhufeiniaid. Felly dylai y cristion, pan yn sefyll fel pe byddai wrth droed y groes, ac yn edrych ar ddyoddef- ìadau ei Iachawdwr pan yn trengu, efe a ddylai dyngu yno, trwy gymhorth dwyfol ras, i goleddu gwrthwynebiad gwastadawl yn erbyn pob chwant, ac yn erbyn pob pechod. Pechod yw gelyn mwyaf Duw, a gelyn mwyaf dyn hefyd. Beth a drôdd Adda ac Efa allan o baradwys ? Pechod- Beth a achosodd foddiad yr hen fyd yn y Beth a ddystrywiodd ddinas Duw, ac a wasgarodd ei bobl dde- wisedig fel crwydriaid dros wyneb y ddrtear? Pechod. Eeth ddygodd afiech- yd, damweiniau, trafferthion, gofalon, heintiau, a newyn, i'r byd ? Pechod. Beth a gyneuodd fflamau uffern? Pechod. Beth gan hyny a raid fod peehod? Y mae yn sicr nas gall un cristion ei goleddu yn ei fynwes; y mae cariad Crist yn ei argymheli i gasau pechod â pherffaith gasineb. Yr ydym yn darllen am Cicero, pan yr anerchai ef y Rhufeiniaid, ei wrandawwyr a arferent ddywedyd y naill wtth y llalì, wrth fyned i ffordd—Y fath areithiwr, O y fath areithiwr yw Cicero! Ond pan anerchai Demosthenes y Groeg- iaid, y tyrfaoedd a aent i ffordd gan lefain, 1 lawr á Philip!—i lawr â'r gormes- deyrn! Y cyfiyw ydyw iaith y pechadur, yr hwn y tywalltwyd cariad Crisl ar led yn ei galon,—I lawr â phechod—i lawr àg annglirediniaeth—i lawr û phob chwant —ac yn neillduawl i lawr â'r pechod sydd barod i'm hamgylchu. 4. Y mae cariad Crist yn argymhell ei bobl i fod yn ostyngedig. Yn ol y graddau y tywelltir cariad Crist yn y galon, i'r graddau hyny y gwel y pechadur ei ddiddymdra a'i bechadurusrwydd. Yr hwn sydd â mwyaf o ras ganddo, sydd bob amser â mwyaf o ostyngeiddrwydd ; nid yw llestr llawn byth yn cadw llawer o swn—y ffrydiau dyfnaf ydynt bob am- ser y llonyddaf. Y gwir gristion a gen- fydd gymaint ansanteiddrwydd yn ei sant- eiddrwydd — gymaint o annghyfiawnder yn ei gyfiawnder—gymaint o gnawdol- rwydd yn ei ysbrydolrwydd—gymaint o ddaearoldeb yn ei nefoeddoldeb—gymaint o bechodau yn gymysgedig â'i holl ddy. ledswyddau, ag y mae yn sicr y gallai