Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif. 9.] ESDI, 183S. [Cyf. l NATUR AC EFFEITHÍAU CARIAD CRIST. Yr apostol Pauì, yn ei ail epistol at y I Corinthiaid, a ddywed, " Canys y mae j cariad Crist yn ein cymhell ni, gan farnu ; o honom hyn, os bu un farw dros bawb, yna meirw oedd pawb," 2 Cor. v. 14. Y ■ mae cariad Crist at ei bobl, yn anfeidrawl : uwchlaw y eariad a fedda dynion y naill at y llall. Gall llawer un o'r hiliogaeth ddynawl ddywedyd, " Myfì a gerais y fath , un amflynyddoedd lawer;" ondgall Crist ; ddywedyd wrth y gwaelaf o*i bobl, " A | chariad tragwyddol y'th gerais, am hyny tynais di â thrugaredd," Jer. xxxi. 3. Nid yw cariad Crist at ei bobl yn dechreu pan ] yr ailenir hwy ; nid y w yn dechreu gyda'u j bodoliaeth; nid yw yn dechreu gyda de- i chread amser, " pan y cydganodd ser y bore, ac y gorfaleddodd holl feibion Duw." I Na, "cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio y ddaear a'r byd," yr oedd Crist yn j " llawenychu yn nghyfanneddle ei ddaear i ef, a'i hyfrydwcb oedd gyda meibion dyn- i ion," Diar. viii. 31. Y mae y cariad hwn \ o dragwyddoldebyn y cynghorohono, ac i dragwyddoldeb yn y parhad a'r canlyniad o hono. Meddyliwyd am greaduriaid di- | wrnod o dragwyddoldeb â meddyliau o gariad, ac arfaethwyd i fodoliaeth dded- ! wydd am byth. Y mae cariad dynion yn gyfFredinawl j yn ansefydlawg a chyfnewidiawl; ond i cariad Crist sydd bob amser yr un. Y j creigiau adamantaidd adawdd, y mynydd- oedd tragwyddawl a symudir; ond y mae j cariad Crist yn annghyfnewidiawl. Y mae j y cariad hwn yn gadarnach na cholofnau j natur; y mae mor ansyfladwy a gorsedd ; Duw, y mae mor annghyfnewidiawl a nat- j ur y Goruchaf. Y mae yn wir y gall am- I lygiadau o'r cariad hwn amrywiaw, ond y j cariad ei hun nis gaìl byth; ni all na mwy- hau na lleihau. Yr oedd cariad Pedr at ei Arglwydd a'i Feistr yn gryf a gwresawg. Gallasai ddy wedyd, " Pe gwrthodai pawb ' tydi, ni wnawn ni." Gallasai ddywedyd, " Arglwydd, yr wyf yn baiod i fyned gyda thi i garchar ac i farn. Ond cariad Pedr, yn wresog fel yr oedd, a fethodd yn awr y brofedigaeth. Ond y mae cariad Crist fel efei hun; y mae" yr unddoe, heddyw, ac yn dragywydd." " Efe yn caru yr eiddo, y rhai oedd yn y byd, a'u earodd hwynt hyd- y diwedd," Ioan xiii. 1. " Yr Ar- glwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn ; efe a achub, efe a lawenycha o'th blegid gan lawenydd ; efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu," Zeph. iii. 17. Y mae cariad Crist yn cael ei osod.allan yn nodedig gan yr apostol, wrth ysgrifenu atyr Ephesiaid ; (pen. v. 18, 19.;) " Fel y gaîloch, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad, amgyffred, gyda'r holl saint, beth yw y lled, a'r hyd, a'r dyfnder, a'r uchder; a gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y'ch cyf- lawner â holl gyflawnder Duw." Y mae yn bysbys nad oes gan gyrff (dernyn o bren er anghraifft) ond tri mesuriad (di- mensionsj ; sef, byd, lled, a phraffder; eithr yr oedd yr apostol wedi ei lyncu i fyny gan fawredd y testun a wna bedwar mesuriad, gan ranu y praffder i'r dyfnder i waered, a:r uchder i fyny, yn mesur fel pe bae o'r canolbwynt. Y dyfnder yw ym- ddarostyngiad ei gariad, yr uchder yw y dyrehaflad o bono, y lled y w yr helaethder 0 hono, a'r hyd yw y tragwyddolrwydd o hono. Y mae cariad Crist cyn lleted a'r cyfrgrwnfyd ar ba un yr ydym yn byw. 1 bob hinsawdd y mae ganddo fendithion yn ystôr, yn mhob teml y mae ganddo ymostyngiad i'w gael, ac yn mhob dos- parth y mae ganddo galonau i'w hennill. Ei faner ogoneddus a arddengys i'r cen- edíoedd yr arysgrifen foddäawl hon, "Hedd- wch, heddwch, i bell ac i agos;" nid oes goror o'r grëedigaeth mor wyllt, na phobl