Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif. 7.] GORPHENHAF, 1836. [CYF. I. NODWEDDIAD SYR ISAAC NEWTON. Yít ydoedd nodweddiad cymdeithasol Syr Isaac Newton, yn fath ag a allesid ei ddysgwyloddiwrth ei gyraeddiadau medd- yliol. Yr oedd yn weddaidd ac addfwyn, ac yn addasu ei hun at bob cymdeithas, ac yn ymddyddan amdano ei hun ac ereill yn y fath fodd, fel na thybiwyd ef erioed yn I wageddol. " Ond hyn," medd Dr. Pem- ! berton, "a ganfyddais ynddo yn ddioed.yr hyn ar unwaith ydoedd i mi yn rhyfedd- od ac yn hyfrydwch; ac nid oedd ei hen oedran nac ei anrhydedd cyffredinol yn ! peri ei fod yn anhyblyg yn ei farn, nac | mewn unrhyw radd yn uchelfrydig: yr I oedd genyfachlysur i gael prawf beunydd- iol o hyn. Y sylwadau a anfonwn ato yn feunyddioltrwy lythyrau arei"Principia," a dderbynid ganddo gyda'r hynawsedd eithaf. Yr oedd y rhai hyn mor bello fod mewn unrhyw fodd yn anfoddhaol iddo, fel yn y gwrthwyneb y buont yn achlysur iddo i lefaru Uawer o bethau tirion am I danaf wrth fy nghyfeillion, ac i fy anrhy- j deddu â thystiolaeth gyhoeddus o'i farn dda. Yr oedd mawr wylder Syr lsaac Newton yn mharth ei ddatguddiadau ardderchog, heb ei sylfaenu ar unrhyw ddifaterwch am yr enwogrwydd a roddent arno, nac ar un- rhyw farn annghywir am eu pwysigrwydd | i wyddoreg. Yr oedd ei holl fywyd yn profî ei fod yn adnabod ei le fel athronydd, ac ei fod yn benderfynol i gadarnhau ac amddiffyn ei iawnderau. Yr oedd ei wyl- der yn tarddu o ddyfnder a helaethrwydd ei wybodaeth.yr honaddanghosai iddo pa gyfran fechan o anian yr oedd wedi ei chwilio, a pha faint oedd yn aros i gael ei ddatguddio yn yr un maes ag y llafuriodd ei hun ynddo; ac ychydig amser cyn ei farwolaeth traethodd y syniad cofsdwy dylynol: " Ni wn pa beth a ddichon i mi ymddangos yn ngolwg y byd, ond i fy hun ymddanghosaf wedibod ynunig fel plentyn yn chwareu ar draeth y môr, ac yn difyru fy hun trwy gael yn awr a pbryd arall am- bell garegan lyfnach neu gragen harddach na chyffredin, tra y gorwedda eigion mawr gwirionedd yn annatguddiadwy ger fy ngŵydd." Pa wers i oferedd uchelfryd athronyddion, ac yn neillduol y rhai hyny ag ydynt heb gael erioed hyd yn nod y garegan lyfnach na'r gragen harddach ! Pa barotoad i ymofyniadau claf a golygiadau diweddaf yr ysbryd adfeiliedig am yr ath- rawiaethau cynhyrfol byny, y rhai yn unig a allant daflu goleuni tros gefnfor tywyll gwirionedd annatguddedig. Yr oedd symlrwydd naturiol meddwl Syr Isaac Newton, yn cael ei ddarlunio yn fanwl yn ei lythyr, yn mha un y cyfaddefa wrth Locke ei fod wedi meddwl a llefaru yn anngharedig am dano; ac nid allai y gostyngeiddrwyáö ac yr hynawsedd â pha un y gofynai faddeuant, ddeilliaw ond o feddwl mor ardderchog ag yr oedd yn bur. Yn ei nodweddiad crefyddol a moesol, y mae llawer o bethau yn deilwng o hoffder ac efelychiad. Tra yr amlygai yn ei fywyd ac ei ysgrifeniadau barch gwresog i ddaioni cyffredinol crefydd, yr oedd ar yr un pryd yn credu yn ddiysgog yn y dat- guddiad. Yr oedd yn rhy hyddysg yn, ac yn meddu mwy o ysbryd yr ysgryth- yrau i farnu yn arw am ddynion ereill o wahanol olygiadau iddo ei hun. Meithrin- ai egwyddorion mawrion rhyddid crefydd- ol, ac ni phetrusai hysbysu ei atgasrwydd o erledigaeth hyd yn nod yn ei ffurf dirion- af, ac ni oddefai i anfoesgarwch ac annuwiol- deb fyned heibio un amser yn ddigerydd ; a phan y meiddiai Dr. Halley ddywedyd dim yn anmharchus am grefydd, attaliai ef, a dywedai, " Yr wyf fi wedi astudio y pethau hyn—nid ydych chwi." Yr oedd ei haelioni ac ei elusengarwch heb derfynau; ac arferai sylwi nad oedd y rhai na roddent ddim ymaith cyn eu marw- olaeth, yn rhoddi dim byth ymaith ; ac er fod ei gyfoeth wedicynyddu trwy ei gynil-