Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhip. 6.] MEHEFIN, 1836. [Cyf. 1. Y DUWDAWD. (Dyfyniad o Waith Syr Isaac Newton.) Düw sydd Fôd ysbrydol, ac yn llyw- odraethu pob peth; ac, o herwydd ei lyw- odraeth, y mae yn addas ei alw yr Ar- glwydd Dduw. Y mae Duw yn air perth- ynasol, ac yn golygu gwasanaethwyr; a dwyfoldeb yw llywodraeth Duw, nid dros ei gorff ei hun, fel y dychymygant y rhai sydd yn ei dybied yn enaid ybyd, onddros wasanaethwyr. Y mae yr uchaf Dduw yn Fôd tragwyddol, anfeidrol, a pherffaith; ond bôd, er perffeithied bynag y byddo.heb oruwchlywodraeth, nid ellir ei alw yn Ar- glwydd Dduw. Y mae yr enw Duw yn gyffredin yn arwyddocau Arglwydd, ond nid yw pob Arglwydd yn Dduw. Yr hyn a wna Dduw, ydyw Ilywoilraeth bôd ys- brydol; a llywodraeth ddychymygol, wir- ioneddol, neu uchafol, a wna Dduw gwirion- eddol, dychymygol, neu uchafol; ac, oddi- wrth ei lywodraeth wirioneddol, canlyna fod y gwir Dduw yn Fòd bywiol a gallu- og, ac, oddiwrth y perffeithderauereill. ei fod yn oruchaf a pherffaith. Ymaeefyn dragwyddol ac anfeidrol, yn hollalluog a bollbresenol; hyny yw, y mae parhad Duw yn cyrhaedd o dragwyddoldeb i dra- gwyddoldeb, ac ei bresenoldeb o anfeidrol- deb i anfeidroldeb. Y mae efe yn llyw- odraethu pob peth, ac yn wybodus o bob peth sydd ac a ellir ei wneuthur. Y mae yn anmhriodoi dywedyd fod Duw yn dragwyddoldeb, nac yn anfeidroldeb ; ond yn dragwyddol ac yn anfeidrol. Nid yw efe na pharhad na chyfwng; ond y mae ŷn parhau ac yn biesenol. Y mae yn par- hau am byth, a phresenol yn mhob man ; a thrwy fodoli bob amser, ac yn mhob man, yn cyfansoddi parhad ac eangder. Y mae pob enaid sydd yn meddu ar sel- weddiad, er ar wahanol amserau, ac mewn amrywiol beiriannau synwyr ac ysgogiad, o byd yr un dynsawd anranadwy. Y mae dosranau olynol mewn parhad, a dosran- au cyfhanfcdol mewn eangder; ond aid l yw y naiiì nac y llall yn ansawd dyn, neu ei wyddor feddyliol, a llawer liai y geliir eu cael yn sylwedd meddyliol Duw. Y mae pob dyn, cybelled ag y mae yn meddu darwel, yn un, ac yr un dyn drwy ei holl fywyd yn yr oîl a phob un o beir- iannau ei synwyr. Y mae Duw yn un ac yr un Duw bob amser, ac yn mhob ìle. Y mae efe yn hollbresenol; nid feüy yn effeithiol, ond hefyd yn sylweddoì: o herwydd nid all ansawdd hanfodi hebsyi- wedd. Ynddo ef y mae pob peth yn gy- nwysedig ac yn ysgogedig; eto nid yw y naiil yn effeithiaw ar y lla.ll. Ac nid yd- yw Duw yn goddef dim oddiwrth ysgog- iad cyrff, na chyrff yn derbyn unrhy w wrth- eddiant oddiwrth hoilbresenoldeb Duw. Addefir yn gyffredinol fod Duw yn bodoli o angenrheidrwydd ; ac wrth yr un angen- rheidrwydd j mae yn bodoli bob amser, ac yn mhob lle; ond mewn modd nid dynol, mewn modd nid corfforol, mewn modd anwybodus i ni. Megys ag nad oes gan ddyn dall un drychfeddwl am liwiau, felly nid oes genym ni un drychfeddwl am y modd y mae Duw hollddoeth yn darwelu ac yn deall pob peth. Y mae yn holiol wag o ddefnydd a ffurf, ac o ganlyniad yn ddiweladwy, yn ddiglywadwy, ac yn ddi- deimladwy; ac ni ddylid ei addoli yn nghynrychioliad unrhyw wrthddrych corff- orol. Y mae genym ddrychfeddyliau am ei briodoliaethau; ond pa yw sylwedd gwirioneddol unpeth ni wyddom. Yn mharth i gyrff nid ydym yn gweled ond eu ffurfiau ac eu harwynebau, yn clywed ond y seiniau; nid ydym yn teimlaw ond eu har- wynebau allanol, yn arogli ond y saw- yron, nac yn profi ond y chwaethau; ond nid allwn wybod eu sylwedd mewnol: ni wyddom na thrwy weithrediad ein synwyr- au, nac adfyfyr ein meddyliau: pa faini llai y gaüwn gael un drychfeddwl am syl- wedd Duw ? Yr'ydym yn ei adnabod yn