Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif. 2.] CHWEPROR, 183S. [Cw. 1. Y BEIBL I'R BWRDD, A CHWARE TEG FR ENAID. Un o ragorfreintiau anmhrisiadwy Cenedl y Cymry ydyw bod Duw wedi rhoddi ei ewyllys datguddiedig (sef y Beibl) yn ein hiaith. Ond i ba beth y gwnaeth efe hyny ? Nid i ni i'w roddi yn y gist dan y cloion duon, na chwaith i'w adael ar y shelíFodd i lychwino, o'r naill hen i'r llall o'r wythnos ; ond i'w ddarllen a'i gredu : a chan ìnai i'w ddarllen a'i gredu y rhoddwyd ef i nì, dylai pob un ymdrechu i ddysgu ei ddarllen ; ac ar ol dysgu ei ddarlìen, dylai pob un arfer ei ddarllen yn bersonol a neillduol ; ac, hefyd, dylai rhyw un yn mhob teulu ei ddarllenyn deuluaidd ; ac, o bawb yn y teulu, ar y penteulu y rnae y rhwymau mwyaf. Ond galarus ydyw meddwl íbd llawer teulu a phawb ynddo yn cael dywedyd rhywbeth rywbryd ond Daw ! Syned y nefoedd a rhyfedded yddaear wrth hyn, fod pawbyn y teulu yncael dywedyd rhywbeth ond Duw !! Yn enwedig y penteulu; bydd hwn yn traddodi ei orchymynion a'i gynghorion o'r bore hyd yr hwyr, a phawb o'r teulu yn gorfod gwrandaw ac ufyddbau iddo. Ond am yr hwu sydd yn Ben ary penteulu, ac yn Ben ar bawb yn y teulu, ac yn Benllywydd nefoedd a llawr, ni chaiíF ddywedyd gair!!! Ow ! ow ! i'e, piti/! pity! na chai Duw geuad i lefaru ! Gellid meddwl na fyddai cenad i hyny ond peth rhesymol, a pheth rhe- symol iawn i Dduw ei gael gan bob teulu trwy Gymru pa fodd bynag, a cbydwybod pob Cymro yn gwybod nad oes dim niwaid yn hyny; ond yn hytrach, y bydcìai yn tueddu at lesâd amserol a. thragwyddol pawb yn y teulu. Yn awr, er mwyn chware têg i'r enaid, rhodded pob teulu gynyg ar hyn o orchwyl, pa unbynag ai proíTes ai dibrofî'es; ym- aith â'r esgusodion am ychydig fynydau, ac at y gorchwyl bob bore. Naill ai cyn neu wedi y boreubryd, gorchymyner gosteg trwy yr holl deulu, a deued rhyw un a r llyfr bendigedig i'r bwrdd, a darllened y Uall ryw gyfran o'r gair santaidd. Ac eiî- waith at yr un gorchwyl, yr un modd, yn yr hwyr, gan roddi chware têg i'r enaid ; a phwy a ŵyr na chlywir rhyw un o'r teulu cyn pen hir, yn dywedyd am y deddfau glân, " Mwy dymunol ýnt nag aur, i'e, nag aur coeth lawer ;" ac un arall yn dywedyd, " Melysacli hefyd na'r mêl,ac na dyferiad diliau mêì :" a rhyw un arall yn dywedyd, "Hoffais eiriati ei enau efynfwyna'm hymborth angenrheìdiol ;" a'r llall yn dywedyd, "Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian;" ac un arall dra- chefn yn dyweciyd, " Cyinerais dy orchymynion yn etifeddiaeth dros byth : o herwydd lìawenydd fy nghalon ydynt;" ac un arall eto yn dywedyd, "'Byth nid annghofiaf dy orchymynion ; canys â hwynt y'm bvwheaist." Ac oni fyddai hyn yn bereiddiacb peror-