Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bhîf. 38. MEDI Iôfed, 1866. Cyf. III. DUW A DIGOST. ' Pwy sydd gcnyf fi yn y nefoedd ond tydìt ac ni ewyllysiais ar y ddaear néb gyd thydi." |tna un o'r darluniadau goreu o fewn y Bibl, i osod allan rym y mwynhad y mae yr enaid crediniol yn ei gael o Dduw ar y ddaear, ac yn ei obeithio gael yn y nefoedd. Gwna Dduw yn bobpeth, a phobpeth o Dduw. Nid yw yn prisio am ddim yn y nefoedd nac ai y ddaear, ond Duw. Nid o«s yno nac yma neb ond Efe wedi llwyr-ddenu «i ffydd. Mae bodau ardderchog yn y nefoedd, yn engyl a seintiau; and neb fel Duw i alw arno, i ymddiried ynddo, ac i gyfathrachn ag ef. " Pwy yn y nefoedd a gystedlìr á'r Arglwydd ? Pwy a gyffelybir i'r Arglwydd yn mysg meib- ion y cedyrn'?" Ai tybed mai nid gormod dywediad íel hyn—" neb yn y nefoedd." Mae y nefoedd yn mhell, y teulu yn ddieithr, ac yntau heb wybod nemawr am danynt» Wel, " nid ewyllysiais ar y ddaear "—yn mysg fy nghyd- nabod—" neb gyda thydi "—heblaw tydi, neu mewn cym- hariaeth i ti, yn bersonau, meddianau, na phleserau! Nid oes dim ond mwynhad o'r DuW wnaeth yr enaid all wneud yr enaid yn hapns, yn y nefoedd nac ar y ddaear. "Heb Dduw heb ddim." Pwy all fwynhau Duw os nad ydynt yn ei ogoneddu? Mae y ddau beth mor rhwym wrtheu gilydd a dwy linc mewn cadwyn. Nis gellir cael y naill heb gyr- haedd y Uall. Dyma golli peth mawr o grefyddwyr, meddwl mwynhau Duw heb wneud dim ymdrech i'w ogoneddu \ Dau brif ddyben Duw wrth greu dyn, ydoedd, i'w ogoneddu