Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

W tf Moŷŷ Rhif. 66.] IONAWR 15fed, 1869. [Cyf. VI. BLWYDDYN NEWYDD DDA I CHWI. BM AE yn chwith genym adael yr hen flwyddyn 1868. .j Yr oeddym wedi dysgu gwneud y ífigur 8 yn lled dda yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, gan ein bod yn ei wneud ddwy waith bob tro yr enwid y flwyddyn. Hen flwyddyn dda a fu hi ar y cyfan,—ac mor êbrwydd yr aeth yn hen! Nid yw ond megys doe genym, pan yn ei llongyfarch ar ei genedigaeth. Ond dyma hi wedi myned trwy dymorau ei babandod, ieuengctyd, canol oes, a henaint! Yn wir yr oedd yn myned yn gyflym iawn, ddydd a nos yn myned, nes myned i'r pen. Blwyddyn hynod a fu 1868. Hynodir hi yn Neheudir America, fel blwyddyn y ddaeargryn, pryd y collodd degau o fiíoedd eu bywydan, ac y dinystriwyd gwerth miliynau o bunoedd o feddianau. Hynodir hi yn Spaen fd blwyddyn y gwrthryfel, yr hon a yrodd y Frenhines erlidgar ar ffo, ac a roddodd ryddid crefyddol yn y wlad mwyaf Pabyddol dan haul. Y mae y Bibl wedi cael drws agored i íyned yno. Hynodir hi yn Awstria fel blwyddyn gorchíÿgiad yr awdurdod Pabaidd. Hydodir hi yn Rhufain fel blwyddyn ei gofwy. SÌ- glwyd gorsedd anffaeledigrwydd y Pab, fel yr anfonodd air am i esgobion Eglwys Groeg ddyfod drosodd i ystyried pa beth oedd i'w wneud gyda golwg ar y Grefydd Sanct- aidd, yr hyn a wrthodwyd ^da dirmyg gan y patriarch o Gonstantinople.