Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 65.} RHAGFYR 15fed, 1868, [Ctf. V. ANERCHIAD OLAF AR YEt ETHOLIAD. EL, yn awr, dyma hi drosodd, wedi costio i ni ymdrech galed, a llawer o bryder. Cawsora fisoedd o lafur, a nosweithiau blinion a roddwyd i ni, o herwydd fod pob dyfais, pob nerth, pob dylanwad wedi cael ei ddwyn allan yn ein herbyn. Yr ydym wedi gweled y dant pellaý yn mhen Toriaeth. Y mae pob bygythiad, pob scriw. wedi bod ar waith, ac wedi methu. Nicl oes gan ein gwrthwynebwyr yr un dodge heb ei ddefnyddio ! Nid digon oedd bygwth y cyntedd—ond anturiasant i'r cysegr sancteiddiolaf a fedd dyn — Ei Gydwtbod ! Dyna y Ue yr oedd " Scriw y Capel" am gadw, ni amcanwyd arfer unrhyw ddylanwad ond yr un moesoî, a " bydded ein gelynion yn fainwyr.'" Er mor awyddus oeddym am enill, a phenderfynol o enilì, (gwyr ein gwrthwynebwyr ein bod wedi sicrhau er's wythnosau yr enillem y Bwrdeisdrefi gyda Uawer o gauoedd o fwyafrif, a'r Sir gyda llawer o ugeiniau! ond ni fynent gredu, nes gweled). Eto, er mor awyddus, buasai yn well genym golli, nag ymostwng at yr ymddygiadau anheilwng a arferwyd ganddynt hwy. Gofidiwyd ein calonau nes yr oedd yn gwaedu, wrth weled dynion diniwaid, yn cael eu gyru fel " defaid i'r lladdfa." Prin yr ataliwyd ein Uygaid oddi wrth ddagrau, wrth weled trueiniaid yn cael eu gorfodi, yn groes i'w cydwybodau, i ddweyd yn ypoll,