Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 59.] MEHEFIN 15fed, 1868, [Cyf. V. SION YN WERTH SYLW. " Gwel Sîon, dinas ein cyfarfod." /|\S oes rhywbeth ar y ddaear yn teilyngu sylw, S'íon ^ ydyw. ÌSià oes un mynydd, na dinas, na theml, yu debygi b'ion, yn ol Uais y Bibl. Y mynydd, a'r deml, a'r ddinas, Ue y preswyliai Dnw, am ragor na phedwar cant o fiynyddoedd, heb ymadael. Yr oedd golwg hardd ar S'ion yn llythyrenol, rhagora yu gysgodol; ondyn ei díwyg ysbrydol mae ei gwedd yn brydferth—-" yn fynydd Si'on, yn ddinas y Duw byw, yn Jerusalem nefol, yn gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd." Sion fynydb.—Enw ar un o'r bryniau orweddai yn y rhes gerllaw mynydd Hermon, oedd Sion. Yr oedd Hermon yn fynydd mawr, yn derfyn gogleddol i deyrnas Og brenin Basan, ac yn gwisgo teml ar ei ben i'r eulun- dduw Baal. Gwisgai gap gwyn o eira ar ei ben hyd haner yr haf. A phan doddai hwnw ya ffrydiau dros ei fochgernau, syrthiai gwlith y nos mor drwm arno o'r wybrenau, fel na byddai dyn ddim haner awr heb wlychu hyd ei groen. Ar fynydd 8ion, y safai y rhan ddeheuol o ddinas Jeru- salem, palas y brenin ar du y gogledd iddo, a'r deml ar y tu gogledd-ddwyreiniol, ar fryn Moriah, y mae y He bwriadodd Abraham offrymu Isaac—llawr dyrnu Ornan, lle gwelodd Dafydd yr Arglwydd.