Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jke Battle Axe.) Rhif. 12. Chwefror, 1896. Cyfrol II. ADGOFION FY MYWYD. XII. ^'The conviction grew upon me that I must preach. I tried to put the thought away, because I feared I could never succeed." Matthew Simpsom. R ol y eais a wnaethum at bregethu yn Nghapel Garmon' bu'm am dii neu bedwar mis yn ymladd yn erbyn pob cymhelliad mewnol, ac ni fynwn wneuthur ail gynyg. Parheais i ddarllen a myfyrio, ac i saernio ambell fraslun o bregèth, er nad oedd genyf f wriad byth i draddodi yr un o honynt. Ond" misoedd o oferedd'« oeddynt. Gofidiwn fy mod wedi cynyg o gwbl. Edrychwn arnaf fy hunan fel methdalwr pregethwrol; wedi treio pregethu fel tase, ac wedi methu. Teimlwn fel pe buasai pawb trwy y sir yn gwybod am y meth- iant, ac o'r Jbron nad oeddwn yn ofni darllen yn yr Herald Cymraey y modd yr oedd yr hogyn gwyrdd o'r wlad wedi gwneyd fiwl o hono ei hun yn y pwlpud. Ni allwn ddarbwyllo fy hun nad oedd dymchweliad y plat bwyd, a thrychineb y ceiliog dandi, a'r cwbl yn chwedlau pen fíair. Cariwn fy mhen yn isel, ocheneidiwn yn ddiarwybod, ac ym- guddiwn o wydd pobl, fel pe buasai nod Cain ar fy nhalcen. Clywswn y tadau yn son am un neu ddau o fechgyn y gymydogaeth a ddechreu- asant bregethu yn dalog iawn flynyddau yn flaenorol, ond a aethant i'r gwellt; ac yr oedd eu henwau yn watwargerdd, a'u hanes yn chwerthin- iad gwlad. Ac yn awr, dyma finau yn yr un sach a flỳliaid felly, heb achos yn y byd, namyn fy meddalwch yn cymeryd fy mherswadio gan ddyn caredig i gynyg ar waith oedd uwchlaw fy ngallu. Beth a ddaeth