Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jhe Battle Axe.) Rhif. 11. Ionawr, 1896. Cyfrol II. ADGOFION FY MYWYD. XI. " The method of God's working is upward progress."—Thomas Jones, Swansea. 7|) HAID dychwelyd yn ol i gyfeiriad yr Aiftt yn y rhifyn presenol, A*V daith saith neu wyth mlynedd. Gwnaed pont sych yn y Fwyell ddiweddaf o'r Adroddiad Cenhadol i rychwantu ceunant anferth. Tuag at adolygu yr hanes yn fanwl, rhaid ail gychwyn taith yr anialwch, ac adrodd y modd y bu arnaf rhwng Migdol a'r mor. Lle annghyfanedd ei wala, er nad yn drigfa dreigiau, heb nemawr o gymdeithion ieuainc yn wynebu i'r un cyfeiriad, na math yn yn y byd o arweinwyr i ddangos y ffordd, y cefais fangre gychwynol fy 'ymdaith ar i fyny. Ni ddigwyddai fod bardd, na llenor, na cherddor uwchraddol, yn y plwyf ar y pryd, ac yr oedd llyfrau yn brinion ac yn anhawdd i'w cael. Cartrefwn mewn ardal unig, yn mhell o'r pentref, ac allan o gyrhaedd hyny o fywyd meddyliol oedd yno. Nid oedd na newyddiadur na misolyn yn cyrhaedd ataf pan oeddwn fachgen tra ieuanc, na helynt y byd yn hyspys i mi, oddieithr hyny a gludii gan y teiliwr neu y wniadwraig, pan ddeuant acw i weithio, neu gan ryw bregethwr caredig a alwai heibio ar y Sabboth ar ei daith rhwng dau gapel; neu, ynte, hyny o chwedlau a glywn'yn nghwmni y gweision yn yr efail a'r felin, ac wrth ddilyn fy nhad yn awr ac eilwaith i farchnad Llanrwst a fíair Abergele. Cauwyd fi allan o'r byd mawr ag y dyheuwn mor angerddol am gael golwg arno er pan wyf yn cofio dim, ac nid oedd