Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jhe Battíe Äxe.) Ehif. 10. Rhagfyr, 1895. Cffrol II. ADGOFION FY MYWYD. x. " Digyfnewid yw ei feddwl, a chyfìawna ef yn llawn Ei holl gyaghor; ac mae ganddo o'r fath bethau lawer iawn." —Hiraethog. ■0Ì ORFODIR fi gan anigylchiadau anorfod i roddi llam dros amryw ■W flynyddoedd, ac i ddodi penod o'm hadgofion yn y rhifyn hwn sydd yn taro yn agos ar achlysur ail-adroddiad y Genhadaeth. Deuaf yn ol eto ar ddechreu blwyddyn newydd, fel yr arferai Ellen Jones, Nantycerig Bach, ddychwelyd at ei throell ar ol ymgomio a chym- ydoges, i godi pen yr edef, ac i weu y darnau o'm hanes sydd yn cydio amgylchiadau y benod hon wrth yr adgofion blaenorol. Yr oeddwn weithian yn y weinidogaeth ac ar fy ail gylchdaith. Treuliais y ddwy flynedd a thri chwarter cyntaf mewn Ynys a gydir wrth Arfon gan gwpl o bontydd cedyrn a heirdd a wasanaethant fel angorion i'w chadw rhag myned hefo'r llif. Er's peth amser cyn gadael Mon yr oeddwn wedi derbyn galwad swyddogol i gylchdaith Bagillt, ac i ymsefydlu yn ninas dawel Caer. Mawr oedd fy awydd i fyned yno. Ymdrechwn gyflenwi diffygion fy addysg foreuol y blyn- yddau hyny gydag aiddgarwch ofnadwy, ac yr oeddwn yn cyfrif ar ddau beth pwysig oeddynt ar y maes newydd fel moddion i hyny. Perchen- ogai y Circuit Stewart y casgliad goreu o lyfrau o neb yn Nghymru at wasanaeth pregethwr ieuanc, ac yr oedd, wrth fy ngwahodd, wedi addaw i mi running power ar bob llyfr a feddai, neu a allasai bwrcasu ag arian. Y nefoedd a wyr y manteision a gynwysai hyn i mi. At hyny,