Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jke Battle Axe.) rhif. 9. Tachwedd, 1895. Cyfrol II. ADGOFION FY MYWY.D. IX. " Remember that the yreat icorld is a theatre, your part in the play is determined by the poet; but its performance depends upon yourseljr 'EWN hen fwthyn gwyngalchog, gwellt-doedig, dw^^-ystafellog, a safai rhyw dri lled cae i'r dwyrain o'r Goleugell, dygwyddodd amgylchiad, bychan ynddo ei hunan, ond pwysig ei ganlyniadau, yn hanes fy fywyd, ac y caf ei grybwyll yn y man, ar ol esponio tipyn ar ei gyn-destynau. Enw y lle oedd Nant-y-cerig-bach. Yr oedd golwg oedranus arno ddeugain mlynedd yn ol. Er's pa faint o amser cyn hyny yr oedd yr hen dy anwyl yn sefyll nis gwn. A yw ar ei draed heddyw neu beidio nis gwn 'chwaith. Y mae Cae'rodyn, Brynrhodwyn, ac aml fwthyn gweithiwr a safai yn yr ardal pan oeddwn yn fachgenyn wedi myned yn annghyfanedd-dra er's blynyddoedd, ac y mae yr olwg ar eu hadfeilion yn llenwi mynwes dyn ag adgofion am hen gymeriadau a throion nas gellir meddwl am danynt heb haner tagu. Llawer awr ddyddan a dreuliwyd, ac aml weddi daer a offrymwyd ar aelwyd bridd rhai o'r bythynod hyn. " Ty a siamber," fel y dywedir ar lafar gwlad, oedd Nant-y-ceryg gynt, gyda gardd eang a 11 ed gynj'rchiol wrth ei ystlys ; cut mochyn wrth ei dalcen isaf, a mochyn ynddo hefyd yn gyffredin, oblegyd dyma y gwr a ofalai gasglu pres i dalu y rhent. Safai y ty a'i dalcen uwchaf i'r ffordd, ac o'i flaen yr oedd hewl chwe' llath ysgwar neu fwy; gwrych drain trwchus ac uchel rhyngddo a'r ffordd i gysgodi y ty a noddi yr ardd, a llidiart fawr grogedig wrth