Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jke Battle Axe.) Rhif. 8. Hydref, 1895. Ofrol II. ADGOFION FY MYWYD. VIII. " Gan fod cymaint cwmwl o dj'stiön wedi ei osod o'n hamgylch." TR hen deulu anwyl, pa le y maent ? Llanwent y set fawr dan y pwlpud fel urdd y pedwar henuriad ar hugain. Ffortiwn i bre- gethwr meddylgar a da oedd eu presenoldeb a'u sylw; eithr gwae y gwan, yn enwedig os tueddai i fod yn wyntog a hirwyntog. Anfynych y byddai eisteddle yr un o honynt yn wag, foreu na hwyr, odfa neu gyfarfod gweddi. Eisteddai pob un o honynt yn ei le ei hun yn gyffredin. Ymwthiai pymtheg o honynt i'r set fawr ar adegau, ac eisteddent mor agos at eu gilydd a phlant yr ysgol yn nhe Bodnod, a byddai o ddeg i ddwsin o honynt yn bresenol fel rheol. Gwrandawent yn astud a meddylgar, gan sefydlu eu llygaid ar y pregethwr, oddieithr y brodyr a eisteddent a'u cefnau at y pwlpud. Ychydig o swn a gynyrchent yn gyffredin, serch fod y gwrandawiad bob amser yn fywiog. Yr oedd ganddynt ddull o wylio wynebau eu gilydd dan y bregeth, ac os byddai achos, o deligraphio effaith y dylanwad o'r naill i'r llall; ond gwnaent hyn oll yn hynod ddirgelaidd, ac yn hollol foneddigaidd, Gollyngid allan ambell amen a diolch, mewn llais cryf a pheraidd, gan wr Bryn-y-Fran, pan lenwid ei lygaid glas mawr a deigryn; ymollyngai gwr y Berllan Bach, pan wrth ei fodd, i ryw chwerthiniad dirwasgol a nefolaidd, a dyhidlai gawod o ddagrau i'w gadach goch, gan ymgrymu a'i ben yn isel wrth ochr y pwlpud. Gwrandawr sylwgar iawn oedd gwr y Rhiwlas, heb nemawr o effaith cyffroad dyfnderoedd ei yspryd defosiynol i'w weled ond yn ngweadwaith anesmwyth llinynau ei wyneb,