Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jhe Battle Axe.) Rhif. 7. Medi, 1895. Ofrol II. ADGOFION FY MYWYD. VII. " Grave stones tell truth scarce forty years. Generations pass while some trees stand and old families last not three oaks." Thomas Browne. ¥f\ UAN yr ä cenedlaeth gyfan i fro dystawrwydd fel na cheir un ar Jé) ol wedi dianc y difrod, fel cenhadon Job, i adrodd yr hanes. Pan dawo y dynion, a lle na byddo cofnodau mewn llyfr, rhaid myned ar ofyn y ceryg beddau am hyspysiaeth. Ychydig a bylchog yw yr hyn sydd ganddynt hwythau i'w fynegu. Toredig yw eu geiriau a bloesg eu cynaniad, ac nid hawdd yw gwneyd allan y genadwri a ymddiried- wyd iddynt. Diangodd ambell wall mewn enw a dyddiad dan gynion a morthwyl y maen argraôydd ar y dechreu, ac mae y mwsogl a dyf dros ranau o'r argraffwaith mewn cydymgais ag effaith y tywydd a'r dyfroedd a dreuliant y ceryg, yn peri fod yr ysgrifen yn anhawdd i'w darllen. jA chan nad beth fyddo yr aneglurder neu yr annghysonder yn y dystiolaeth a roddant, ofer hollol yw ail ofyn a chroesoli y tystion meirwon hyn. Ac ar y goreu ni wasanaethant hwy, mwy na gweini- dogion Wesleyaidd, yn nghyflawn waith y weinidogaeth, nemawr uwchlaw deugain mlynedd. Dyna brofiad yr hen lenor cymhen Thomas Browne am bethau yn ei oes araf ef, ac nid yw yn debyg y ceir gwell- had yn hyn gyda'r cyflymdra cynyddol sydd yn nodweddu ymdaith yr amseroedd.