Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jke Battle Axe.) Rhif. 6. Awst, 1895. Cyfrol II. AGOFION FY MYWYD. VI. " The wild Indian and the unschooled farmer's boy stand nearer to the liyht by ichich nature is to be read than the dissector or the antiçuary." Emerson. Y£X YMYSGLYD, ac, efallai, anacbaidd, yw cymeriad fy adgofion *&* heddyw. Ymlidir fy meddwl gan bethau hen a diweddar, heb fawr o barch i olyniant amser. Ymgyfyd golygfeydd daearyddol gyda lled a lliw yn gymysg ag edlychod dignawd adgofion am bersonau a dygwyddiadau nad oes genyf ond prin " rith adail breuddwyd " o gof am danynt; ac, ar draws y chaos oll, ymlwybra cysgodion teneuon hen draddodiadau am leoedd a phethau nad oes uwch awdurdod drostynt na'r aelwyd. Pe gallai fy ysgrif-bin bortreadu yn gywir ac yn gyflawn weledigaethau fy mhen ar hyn o bryd fe ymddangosai darlun ar y papyr a barai effaith ryfedd ar feddwl y darllenydd. Dichon mai da yw nad oes allu yn fy llaw i fynegi fy meddwl. " Sut y mae yr afon yn chwyddo cymaint a hithau heb wlawio ond ychydig ?" gofynai bachgenyn i hen ddoethwr gwladaidd. " 0," atebai yntau, " cyfeiriad y gwynt sydd yn cyfrif am y llif, machgen i. Cychwyna Afon Hiraethlyn (oblegyd dyna ei henw) o lyn yn mynydd y Penant A phan fyddo y gwynt o'r de-orllewin, mae'n chwythu y dwf r o'r llyn, sef o'r ' Chwythlyn,' canys dyna ei enw, ac yn chwyddo dwfr yr afon yn llifeiriant." Parodd yr atebiad hwn i'r bachgen lawer o drafíerth feddyliol, a hyny dros rai blynyddoedd. Un peth a barai ddyryswch iddo oedd y gwahaniaeth yn enw yr afon i enw y llyn ag y tarddai