Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jhe Battle Axe.) Ehif. 5. Gorphenaf, 1895. Cyfrol II. ADGOFION FY MYWYD. [HE bells of Is are ringing Far down my heart to-day ; They call me to the memory Of scenes long passed away— Of days almost forgotten, Of feelings long passed by— Sweet as the scent of flowers We loved in infancy." Clifford Harrison. Gallu rhyíedd yw deddf y cof. Mae dechreu meddwl am hen bethau yn dwyn hen bethau i'r meddwl. Bwriais I rwyd fy meddwl o'r tu yna i'r llong y misoedd diweddaf hyn, ac y mae dalfa ar ol dalfa yn cymeryd lle. Pysgod o adgofion, bychain a mawrion, da a drwg, yn dylifo iddi. Anhawdd yw ei thynu i'r lan, a gwneyd trefn a dosparth arnynt. Ofnaf weithiau y torir y rhwyd. Syfrdanir fy meddwl gan ysprydion yr hen amser gynt. Dawnsiant y dydd ar fanlawr fy myfyrdodau, a gwibiant y nos yn nghuddfanau fy mreuddwydion. Cyfyd adgofion mebyd fel adsain clychau dinas dclychymygol Is o'r dyfnderoedd i'm clustiau, a chludant beraroglau i'm firoenau mor felusion ag y gwnai gardd y Dyffryn—" amser chwynu "—yn nghanol Mehefin. Adgofion melusion, ie, siwr. Rhyfedd fel y mae chwerwderau bywyd yn cael eu fiiltro gan dreigliad amser, a'r pigau drain, a cholynau danadl poethion, yn cael eu cuddio, a'r clwyfau wnaed ganddynt yn cael eu rhwymo gan ddail bywiol a blodau pert yr amser gynt. Rhoddir rhyw fath o