Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jhe Battle Axe.) Ehif. 4. Mehefin, 1895. Cyfrol II. ADGOFION FY MYWYD IV. R foreu Sul y bu farw fy mam, fel yr awgrymais o'r blaen. Bu farw ar ol bod am oriau yn gweddio ac yn canu, cyn gadael ei theuln. Dechreuasai ar y gorchwyl bendigedig y nos Wener blaenorol, " wrth eu clywed nhw yn canu," fel y dywedai wrth Nantw dranoeth. Collodd y swn ar hyd dydd Sadwrn, ond tua haner nos, fe droes y gwynt i chwythu dros y tir, a chludwyd adsain y canu i'w chlustiau drachefn. Deffrodd ei holl natur, cofiodd gyweirnod y gân, ymdaflodd i yspryd y nefol gôr, a gwnaeth yr ystafell mor fendigedig fel nas gellid penderfynu yn liollol yn mha le yr oedd y ddaear yn darfod, a'r nefoedd yn dechreu. Yn nghanol swn canu hyfryd felly y bu farw, ac ar adenydd awelon nefolaidd felly y cludwyd ei henaid adref, pan nad oedd ond deugain a thair mlwydd oed. Sabboth rhyfedd yn fy nghartref oedd y Sul cyntaf ar ol marwolaeth fy mam. Teyrnasai tawelwch syn dros y lle. Gwibiai fy nhad o gwmpas, heb brin yngan gair wrth neb, a phan eisteddai yn achlysurol, edrychai fel gwr wedi synu. Nid oedd yr hynaf o honom fel plant ond geneth ychydig uwch- law pymtheg oed, eithaf gwanllyd ei hiechyd, ac angerddol o ddwys ei theimladau. Pedair-ar-ddeg oed oeddwn inau, a'm calon ar dori, ac yn waeth na bod yn gwbl ddigynorthwy. Deg oed oedd fy chwaer ieuengaf, ac yn ddigon hen i sylweddoli chwerwder ein profedigaeth Yr oedd fy mrawd ieuengaf yn bedair blynedd ieuengach na hithau, ac yn rhy blentynaidd i wybod ei golled ; poorjellow, bach. Prin ygallai neb o honom symud gan bwys dirlethol yr amgylchiadau pruddaidd, ac i ni yn annysgwyliadwy. Gwasgem at ein gilydd o gylch y tân, fel