Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL Jke Battle Axe.) Riiif. 3. Mai, 1895. Cyfrol II. AGOFION FY MYWYD. iii. ^I fum wrth ddrws ufFern }-n curo, 'X dymuno cael myned i mewn; Ond dywedodd y gwr oedd a'r 'goriad Bod wedi ei chauad—na chawn ; Tra y bum I yno yn sefyll, I arall agorwyd, nii wn ; Pwy wel arnaf fai am ei garu— 'Does gyfaill yn haeddu fel hwn. Dyma un o'r hen benillion argraflfwyd gyntaf ar fy nghof, wrth glywed fy nhad yn ei adrodd ar yr aelwyd. Dichon nad yw ei athrawiaeth yn hollol iachus, ac fod adlef etholedigaeth ddiammodol i'w chlywed ynddo ; modd bynag am hyny, hwn yw yr emyn ruthrodd i fy meddwl wrth adolygu cyfnod yr adgofion diweddaf. Bum inau wrth ddrws ufíern yn curo. Taflodd gelyn fy enaid y drws yn gil-agored o'm blaen. Cefais drem ar afalau Sodom, sydd yn tyfu ar ochrau y flfordd lydan, a chlywais swn crechwen ellyllion yn gymysg a dadwrdd y rhai sydd yn aros wrth y gwin, yn hyd-ddenu ieuenctyd disynwyr i roddi y naid ddiadlam i [rwyd mwrdrwr eneidiau. Nid oeddwn cto wedi cyrhaedd 12 oed ; ond o fewn cam i'r dibyn erchyll, ac yn llithro yn gyflymach hob dydd tuag ato. Ond cyfryngodd y " Gwr oedd a'r 'goriad " nr fy rhan, a gosodwyd cyfundrefno foddion amryfath mewn gweithrediad i arafu fy nghamrau ac yn y man, i gyfnewid cyfeiriad fy mywyd. Dywed John Stuart Mill mai tuedd y werin, wrth olrhain rhyw eflaith neu ddygwyddiad i'w acbos, yw ei dadogi ar rhyw un Jactor, tra y mae yr athronydd yn cymmeryd i fewn holl ammodau rhagflaenol y peth fel y cyfrif athron-