Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehif. 1. Maweth, 1895. Cyfrol II. ADGOFION FY MYWYD. |A waeth pwy ydwyf, os ydyw fy adgofion yn werth eu cofnodi; a chredwyf eu bod. Prin y tybiwyf fod fy hanes personol yn deilwng byth o le ar glawr, er fod yn debyg y bydd rhyw law garedig yn ymdrafi'erthu i wneuthur hyny ar ol i'n diwrnod gwaith derfynu. Dichon y llithra ychydig o'r personol i'r adgofìon, gan mor anhawdd jw cadw y terfyn yn glir rhwng y deilydd a'r gwrthddiych. Modd bynag, myfi a wnaf fy ngoreu i gadw yr adgofion am ereill yn llawer amlycach na'm hanes fy hunan, o flaen y darllenydd. Gweddus, serch hyny, yw taflu cîl y drws yn agored, a brathu fy mhen allan heibio yr ystlysbost, fel y gallo pobl wybod rhywbeth pwy ydwyf cyn eistedd i lawr i wrando fy chwedlau. Ganed fi yn yr un flwyddyn a phriodas ein Brenhines, ac y mae er hyny rai blwyddi uwchlaw haner cant. Cefais ddygiad crefyddol i fyny, er na welwyd nemawr o'i ol am amser, os eto. Cyrchwn yn gyson i gapeì Wesleyaidd y Llan, er fod y daith yn mhell a'r fibrdd yn ddrwg ac yn serth, oddieithr yr Ysgol Sul. Ni chefais ganiatad i fynychu hono hyd nes oeddwn rhwng wyth a naw oed, ac yr oeddwn yn medru darllen tipyno baesoneg ysgol ddyddiol cyn dysgu gairarlyfr Cymraeg. Unwaith, hyd yr ydwyf yn cofìo, y cefais ganiatad i fyned i'r Ysgol Sul i ddosbarth yr A B C, ac aethum i brofedigaeth y tro hwnw. Ar wahoddiad caredig athraw y plant, aethum i'w dŷ i gael dysgled o dê i aros odfa yr hwyr. Trigai ef ja llawer nês at y capel na nhad a mam, ac felly arbedwyd siwrnai faith i goesau byrion, a rhoddwyd i fach- genyn cartrefol a gwledig dro amheuthyn yn y fargen. Gwylaidd a thrwsgl iawn oeddwn wrth y bwrdd te, ac fe ballai gofod imi gofnodi pa sawl gwaith " y cochais at fy nghlustiau" pan ddygwyddai rhywun ddyweyd gair wrthyf, neu ediych arnaf dipyn yn graíî'. Ar y