Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FWYELL (Tke Battle Axe.) Rhif. 12. Chwefror, 1897. Cyfrol III. AÜGOFION FY MYWYD. XXIV. >AX yn hwylio tua Chaerystenyn, cyfarfyddais ar fwrdd y llong a boneddwr oedd yn gyfaill mynwesol i'r dyn mwyaf galluog a dylanwadol a ddaeth erioed i ymsefydlu yn Eglwys Bach. Bu'm am beth amser bellach yn holi pawb tebyg i Avybod am hanes bywyd y boneddwr hwn, ond yn ofer hyd nes cyrhaedd i'r parth pellenig hwn o'r byd, a hyny mewn modd hollol ddamweiniol. Dywedir fod can mil o snow-drops wedi cael eu hallforio o Smyrna i harddu llwybrau Bodnant Hall, ac nad ydoedd hyn ond un peth allan o lawer a wnaeth yr yswain anturiaethus tuag at wneuthur ei balas a'i amgylchoedd yn addurn i un o'r llanerchau prydferthaf yn Ewrob. A chan fy mod yn ceisio ysgrifenu yr adgofion hyn o fewn llai na deugain milldir i Smyrna, lle y tyfodd y blodau, dodaf yma yr hyn a glywais am oreugwr " Plas Bodnant." Bu farw Henry Davis Pochin, U.H., D.L., yn Bodnant Hall ar ol cystudd byr, Hydref 29ain, 1895, a chladdwyd ei weddillion yn y Masoleum gostfawr—a alwai " My Poem"—a gyfodasid ganddo rai blynyddau yn fiaenorol ar fin afon Hiraethlyn yn un o'r llanerchau mwyaf rhamantus ar ei etifeddiaeth o fewn ychydig i'r palas. Brodor o Leicester oedd y dyn hynod hwn. Dygwyd ef i fyny yn Fferyllydd, ac yn dra chynar yn ei fywyd ymroddodd i wneuthur ymchwiliadau fferyllol, ac i hyn yn benaf y cysegrodd ei fywyd prysur, ac o'r ffynonell hon y tarddodd ei lwyddiant tymhorol. Gwnaeth ddargan- fyddiadau pwysig mewn fferylliaeth ymarferol a ddygodd gawodydd o gyfoeth i'w goffrau. Sefydlodd Chemical Works yn Salford,