Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FWYEbb (Tke Battle Axe.) Rhif. 11. Ionawr, 1897. Cyfrol III. ADGOFION FY MYWYD. XXIII. ID yn 1860 y cynhaliwyd y Cyfarfod Talaethol yn Llanfyllin am y waith gyntaf. Bu yno dair neu bedair gwaith yn flaenorol. Yn 1845 galwodd y Parch. Richard Roberts, Llundain, }rno ar ei ffordd adref o'r Coleg, er mwyn bod yn y District. Pregethid am ddeg yn y boreu yn ein capel ni gan y Parch. Edward Anwy], yr hwn ar y pryd oedd Cadeirydd y Dalaeth. Yr oedd y capel yn llawn. Eisteddai y myfyriwr ieuanc ar yr oriel yn un o'r eisteddleoedd pellaf 3'n yr adran uwchlaw y cloc. Ar derfyn y bregeth rhoddodd Mr. Anwyl allan y cyhoeddiadau am y dydd, sef dydd yr uchelwyl. Nid oeddynt wedi trefnu ond ar gyfer odfa mewn un capel yn y prydnawn; ond wrth weled y lle mor llawn yn y boreu, cymerodd Cadeirydd y Dalaeth arno ei hunan i gyhoeddi odfa mewn dau gapel am ddau o'r gloch, ac y byddai Henry Wilcox a Richard Roberts, o'r Coleg, yn pregethu yn y capel aralh Cyhoeddwyd fel hyn, yn llais awdurdodol Mr. Anwyl, heb son gair yn flaenorol wrth y myfyriwr. Credai yr hynafgwr fod Duw wedi rhoddi i'r ymwetydd dieithr ddawn i bregethu, a chan ei fod yn bresenol ac angen am frawd cryf i roddi pregeth yn y capel arall o flaen Mr. Wilcox, cymerai yn ganiataol fod hyny yn ddigon o reswm dros ei gyhoeddi heb ofyn ei gydsyniad na math yn y byd o seremoni. Yn wir dyna y drefn yn yr oes sym* hono, ac nid wyf yn sicr fod ein gwelliantau diweddar yn gymaint o wellad .mewn gwirionedd ag ydynt mewn enw. Dyry Mr. Roberts liaws o adgofion dyddorol ereill am y Cyfarfod Talaethol hwnw, ag y pallai gofod i'w hadrodd yma; pe byddai hyny yn gyson