Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FWYELÜ (The Battle Axe.) Riiif. 10. Bhagffr, 1896. Cyfrol III. ADGOFION FY MYWYD. XXII. fYFEIRIAIS fwy nag unwaith at " Gapel y Llan." Yn y rhifyn hwn rhoddir darlun o hono fel y mae yn bresenol, yn nghyd a'r ysgoldy newydd at wasanaeth yr Ysgol Sul gyferbyn a'i ddrws a gyf- odwyd yn ddiweddar. Yn y cae, wrth dalcen yr ysgoldy, saif Miss Williams, Ty Mawr, a'i nith. Ar dir y foneddiges garedig hon y mae yr adeiladau hyn yn sefyll, ac mewn llawer ffordd y mae hi i'r achos mawr yn Eglwys Bach, yr hyn ydoedd yr etholedig arglwyddes i'r eglwys gynt, yn ngolwg yr Apostol Ioan. Bendith ty Obed Edom a barhao i orphwys arni hi a'i mangre. Mae y tu fewn i'r capel, lle ac arddull y cyntedd iddo, a glanhad cyffredinol y parwydydd oddiallan, yn bethau diweddar, ac yn harddach nag o'r blaen ; ond y mae yr hen furiau yn sefyll; y to ysgwar; y bondo llaes ; y ffenestri bychain, a llawer rhip, ychydig o honynt yn sicrhau personal identity yr hen gysegr anwyl genhedlaeth ar ol cen- hedlaeth. Nid yw y darlun hwn yn dangos i'r darllenydd heol y pen- tref, nac yn rhoddi math yn y byd o syniad am gymeriad tlws y dyffryn lle y saif arno. Rhyw olygfa o'r tu cefn ydyw, a hyny ar gyfran o'r lle. Daw to a chlochdy eglwys y plwyf i'r golwg dros ben Ysgoldy y Wesleyaid, ac o gwmpas y tẃr petryal a hynafol hwn ym- hongia un o draddodiadau penaf yr ardal. Adroddir yr hen ystori mewn amryfal ffyrdd. Yn ol y rhigwm a glywais i, fe ddywedir fod tai a thiroedd yr holl blwyf, un adeg yn cynwys y pedair tre' ddegwm, yn eiddo un dyn. Y mae arwynebedd y plwyf yn eang, er nad yw ei holl boblogaeth heddyw ond oddeutu mil o drigolion. Diau fod nifer