Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FWYELL (The Battle Axe.) Rhip. 9. Taciiwedd, 1896. Cyfrol III. ADGOFION FY MYWYD. XXI. Yf*1 YDA'I ddarlun, rhoddaf j-chydig adgofion pellach am y Parch. v2A j, R. Chambers yn y rhifyn hwn. Daeth ef yn ddolen gydiol yn fy mywyd rhwng ffriddloedd y Goleugell a'r weinidogaeth Wesleyaidd. Efe oedd arotygwr gylchdaith pan oeddwn yn ymgeisydd, ac efe a ymgymerodd a'r cyfrifoldeb o'm cynyg allan yn 1860, tae fater am hyny. Mae yntau yn ei fedd bellach er's 32 mlynedd, ac yr oedd wedi cilio o'r Gogledd, er's }'chydig cyn gorphen ei yrfa, i'r Dalaeth Ddeheuol, fel na chefais nemawr o'i gymdeithas byth ar ol y dyddiau uchod. Ond trwy gymhorth y darlun, a rhai awgrymiadau oddiwrth gyfeillion, ymrithia fy ngyfaill o ílaen fy meddwl mor fyw ag y gwelais ef erioed yn y cnawd. Dyn ysgafn, eiddil, canolig o daldra, tywyll ei bryd, a gwelw ei wedd oedd efe. Yr oedd ei wallt du yn grych, a'i gernflew yn ychydig a chul. Gwyneb tenau, ac yn tueddu at fod yn hir, llygaid haner cauedig dan aeliau trymion ; talcen lled uchel, heb fod yn llydan ond yn enciliedig; genau fechan, gynhesol a mindenau ; diwyg glerigol, gyda gwasgod agored yn dangos brest wen, a chadach yn dorch am ei wddf heb yr un goler—yn ol ffasiwn y tadau. Tipyn o ryfyg mewn dynion ieuangach nag efe oedd ymdrwsio a starched collar. Rhyfedd y cyfnewidiad a ymdaenodd dros y frawdoliaeth o ran diwyg personol a gwisgad dillad yn ystod y chwarter canrif diweddaf. Mor sedate ac unffurf oeddynt gynt» Pawb yn lanwedd, a'r rhan fwyaf yn ddifarf, ac yn ofalus am i'r