Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FWYELL. (Tke Battle Axe.) Rhif. 7 Medi, 1896. Cyfrol III ADGOFION FY MYWYD. XIX. " Memory is not wisdom."-—Tupper. YN y rhifyn hwn rhoddir darlun o Ysgol Genedlaethol y Llan ag y rhoddais adgofion am dani yn yr ail gyfrol o'r Fwyell, td. 130-6. Mae y wing sydd ar draws y talcen deheuol, y ty sydd gerllaw, ac ychydig o gyfnewidiadau ereill, yn bethau a wnaed yn ddiweddar, ond am fur y wyneb, yr hen fi'enestri hirgul, y gareg las yn y buttress ac arni " A.D. 1835," ac ymddangosiad cyfiredinol yr hen adeilad, mae pethau yn debyg fel yr oeddynt dan deyrnasiad Eichard Beverley, ddeugain mlynedd yn ol. Mae gate y Plas, llanerch y gro, yr hen bont, coed eirin Jin Evans," yno fyth, ac afon Hiraethlyn yn llifo heibio yn llechwraidd megys cynt, ond fod sychder maith y tymhor bron gosod terfyn i'w bodolaeth adeg ein hymweliad. Wrth gwrs, y genedlaeth bresenol o blant yr ardal a welir yn y darlun. Y maent oddeutu cant mewn nifer, oll yn lan a thrwsiadus, a sicrhawyd ni fod amrai o'r ysgolion rheolaidd yn digwydd bod yn absenol y diwrnod hwnw. Yr oedd trefn yr Ysgol ac ymddygiad y plant yn gredit mawr i'r ysgolfeistr a'i gynorthwýwyr presenol. Gwftlir hwy ar ocbr aswy.y darlun, a thu ol iddynt saif un, ac ar yr ochr arall i'r darlun saif dau " old boys " a arferent gyrchu i hen ysgol y Llan mewn amseroedd pell yn ol. Wrth son am ysgol, a phlant a phethau y dyddiau gynt, y mae un adgof brawychus iawn yn ymwthio i'r meddwl, nas gallaf fyned