Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FWYELL (Tke Battle Axe.) Rhif. 6. Awst, 1896. Cyfrol III. ADGOFION FY MYWYD. XVIII. " Ifi ryglyddais y lleiaý o'th holl drugareddau di, nac o'r holl wirionedd a wnaethost dth vms: oblegyd\dmffon y daethum dros yr Iorddonen hon ; ond yn aior yr ydwyf yn ddwy fintai."—Jacob. SERCH fod y darlun am y mis hwn yn cynrychioli cyfnod " y ddwy fintai"; gydag adeg lom ac unig " y flbn" y bydd a fyno yr adgofion. Nid wyf eto wedi croesi yr Iorddonen am wlad oddicartref, nac yn hollol sicr fod genyf gymaint a öbn o'r eiddof fy hun. Ond ffon neu beidio, llawer taith faith a gymerais gyda fy chwaer hynaf i gyrchu i gyfarfodydd pregethu, darlithoedd, cyfar- fodydd cystadleuol, a phob math o gyfarfodydd cyhoeddus, perthynol i'r gwahanol enwadau a gynhelid yn rhywle mewn amgylchedd o chwech i ddeng milldir; ac y mae amgylchiadau diweddar wedi adgyfodi adgofion y dyddiau hyny fel ysbrydion o'm deutu. Nis gellir eu rhoddi lawr na'u rheoli, ond trwy ei gosod mewn gwaith. Pan nad oeddym ein dau ond tra ieuainc, aethom trwy wahoddiad perthynasau agos a charedig i dreulio cyfarfod pregethu y Trefnyddion Calfinaidd, yn y Bettws, Abergele, pryd yr oedd y Parchn. Henry Rees a John Hughes, L'erpwl, yn pregethu. Da yr wyf yn cofio yr odfaon. Yr oedd y ddau yn pregethu yn nghyd yn mhrif odfaon y diwrnod mawr, ac o'r ddau, yr oedd yn well genyf fi a llawer ereill John Hugheá na Henry Rees. Yr oedd yr olaf yn groendenau eithafol, ac yn dwrdio y mamau yn achos y plant, ac yn gwneyd cuchiau dychrynllyd