Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FWYELL (The Battle Axe.) Rhif. 5. Gorphenaf, 1896. Cyfrol III. ADGOFION FY MYWYD. XVII. " Sìomedig yw ffafr, ac ojer yiv tegicch; ond benyw yn ofni yr Ar~ glwydd, hi a gaiffghd."—Lemüel. Y?V*VMA adnod ddewisol "benyw," ag y mae adgofion am dani yn J& Henwi fy meddwl heddyw. Y ddegfed a'r hugain o r mis oedd dydd-gylch ei genedigaeth, ac, oblegyd hyny, hawliai yn ol traddodiadau ei theulu, fod yr adnod a ddygai y rhifnod hwn yn mhenod olaf Llyfr y Diarhebion yn cynwys cenadwri neillduol av ei chyfer hi. Adroddai yr adnod yn fynych, a gwnaeth ymdrech ddewr ar hyd ei hoes i osod ei chynwysiad mewn ymarferiad. Er na aàawyd hi heb " ôafr," ac nad oedd amddifad o " degwch," ei phrif nodwedd o'i mebyd i'w bedd, oedd " ofni yr Arglwydd." Rhyfedd fyd yw hwn, ac mae troion y Bagluniaeth sydd yn gofalu am dano, yn oblygedig gan ddirgelwch a dyddordeb. Tua diwedd 1838, neu yn gynar yn 1839, mewn amaethdy unig, a safai ar ochr llethr aralwg, a'i barwydydd gwynion yn goleuo i fyny y planhigion a'r ychydig goedydd a dyfent o'i amgylch, ganed cyntaf- anedig par ieuainc oedd yn ddiweddar wedi ymsefydlu yn y byd. Ar un ochr i'r tir rhed ílrwd fechan, dyrfus, ar ei thaith o'r myn^-dd tua'r mor, sydd wedi tori ceunentydd dyfnion a hyllion mewn manau a orchuddid gynt gan ddrain, a mieri, a dyrysgoed ; ac mor serthus ac anhygyrch oedd yr hyn a elwid ffyrdd, fel nad gorchwyl hawdd oedd agoshau at y lle na myned allan o hono gyda throl, na math yn y byd