Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

98 ar liyd glyn cysgod angeu. Ac ar ol y cwbl, y bywyd mewnol hwn ydyw gwir hanes y dyn, boed ef hen neu ieuanc, mudan neu bregethwr. LlewjTchai ambell belydryn heulog fel post o risial i oleuo i fyny y cilfachau tywyllaf, ar adegau. A da hyny. Llygedyn siriol felly yn fy hanes ydoedd y daith gyntaf a gefais oddicartref i dref Caernarfon. Amcan y siwrnai hono oedd pwrcasu ychydig lyfrau. Coleddai fy nhad, fel pawb o oreugwyr yr enwad yn Eglwys Bach, syniadau uchel am y cyhoeddwr enwog Hugh Humphreys. Mawr oedd y son am dano fel dyn anturiaethus a llwyddianus, ac nid oedd fy nhad yn foddlon heb i mi gael golwg ar ei fasnachdy a'i gyhoeddiadau. Penderfynodd ar y diwrnod dedwydd i gychwyn yno. Ychydig a gysgais y noson flaenorol. Codasom ein traed gyda'r wawr am Orsaf Conwy i ddal y tren cyntaf am Gaernarfon. Nid wyf yn hollol sicr i ni fod mewn tren erioed cyn hyny. Ar y fíbrdd tua Castle Square, pan yn ymyl y Bont Bridd, daeth dyn bychan, llygad-ddu, a thrwsiadus i'n cyfarfod. Wrth ein gweled yn edrych yn estronol, rhoddes y troedffordd i mi, ac wrth gamu i'r heol o'r parapet cul, rhoddodd foesymgrymiad siriol a pharchus i ni, a wnaeth argrafl ddymunol iawn arnom ein dau. " Pwy oedd hwnyna, tybed ? Rhy w Berson caredig sydd yn perthyn i'r clref ; oblegyd yr oedd ei got yn ddu a'i gadach gwddf yn wyn. Ie, yn siwr, Person Eglwys oedd y dyn yna. Mor sharp ei gerddediad oedd o, ac yn sharpach fyth ei lygaid." Rhywbeth tebyg i hyn oedd sylwedd ein cydymddiddan rhwng y Bont Bridd a siop Mr. Humphreys. Nid oeddym wedi bod yn y siop bum' munyd nad oedd y " Person Eglwys," fel y tybiem, yna ar ein holau, a buan y cawsom ai ddeall ma: efe oedd Mr. Hugh Humphreys, y llyfrwerthwr. Wedi cleall ein neges, crynhodd ei holl sylw arnom, fel pe buasem gwpl o dywysogion. Dangos- odd y peirianau argraffu, ac eglurodd yr holl gwrs o droi ysgrifeniadau awdwyr yn gyfrolau rhwymedig parod i'r farchnad. Achubodd gyfleus- dra, ar ol gorphen gyda hyny, i roddi cynghorion i mi, fel dyn ieuanc oedd yn dechreu pregethu. Mor ddyfyr a dyddorol ydoedd ! Yr wyf yn cofio rhai o'i gynghorion hyd heddyw. Prynasom hyny o'r " Deonglydd gan ldrisyn " oedd allan o'r wasg, " Gweithiau Josephus," " Llyfr y Merthyron," " Esponiad John Wesley o gyfieithiad Rowland Hughes," " Geiriadur William Davies," a rhai llyfrau ereill Uai pwyaig. Wrth edrych ar y pentwr Uyfrau ar y counter yn cael eu pacio, yr oedd fy llawenydd yn ddirfawr. Byd newydd oedd hwn i mi. Wrth ddychwelyd