Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jhe Battle Axe.) Ehif. 4. Mehefin, 1896. Cyfrol III. ADGOFION FY MYWYD. XVI. " Faith, lihe the jern, may groio into richer yrace and more luxurious jorm, if plantei in the shadoio and damped by the sunless mists.' —Selby. S gofalodd y Dref n fawr ara i mi gael cyflawnder o awyr bur a ^àr goleuni haul, mewn ystyr naturiol, ar ol i mi ddechreu pregethu, ar rai ystyron ereill, mewn cil haul a thawch yr ordeiniwyd fy llinynau, Corsydd siglenog a gauent o gylch fy ngwraidd, haenau o niwloedd di- belydr a arhosent ar fy mrig. Ac os cywir athrawiaeth Selby, trefnwyd i mi gyfieusderau euraidd i fagu crediniaeth yn yr Anweledig, ac i ddad- blygu ffydd ysprydol yn Nuw a'i bethau, heb yr hon ni ddichon gwneuthur pregethwr o neb. Tra yn dymuno cydnabod cyfryngiaeth ddoeth a charedig y Goruchaf yn y cysgodion pruddaidd hyn oll, eto eu cofio sydd yn drwm genyf. Treuliais rai nosweithiau blinion na fynwn feddwl am neb yn profi e\i cyffelyb, ac aeth cleddyf trwy fy enaid fwy nag unwaith a adawodd doriadau ynddo ar ei ol, mor ysgythrog a'r agen sydd rhwng coed y Goleugell a nant ganol y Ty Du, ac yn llawn mor ddiffaeth hefyd. Na ddigaloned y galon fwyaf toredig, a dysgwylied plentyn awr dywyllaf y dunos am doriad dydd. Anfarwol îod yw Duw y credadyn, a'i gynghor a saif byth. Dichon yr ymddangosai pethau yn weddol siriol ar y wyneb, pan oedd cuddiedig ddyn y galon yn nhrigfa dreigiau, ac yn gorfod rhodio