Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jhe Battle Axe.) Rhif. 3. Mai, 1896. Cyfrol III. ADGOFION FY MYWYD. XV. " The cloch that rejuses to striìce one loill never strihe twelve."—Pwy ? TN ystod blynydd.au îy mywyd fel pregethwr cynorthwyol, ac yn lled fuan ar ol cael fy nerbyn ar y plan cyflawn, cefais wahoddiad i dreulio Sabboth gyda Mr. Owen Owens, Llansantsior. Yroedd ef yn frodor o Eglwys Bach, yn hen gyfaill i'm rhieni, ac yn frawd-yn- nghyfraith i Joseph Jones, Rhiwlas, fy mlaenor ar y pryd. Mab Bryn- melyn oedd Owen Owens. Yr oedd ei rieni yn rhai o aelodau cyntaf yr achos yn Eglwys Bach. Buont fyw i wth o oedran, ac, oblegyd eu henaint a'u hanallu, arferid cynal cyfarfod gweddio yn eu ty yn lled fynych ar noson waith. Yr oedd hyn cyn dechreu y cyfarfod gweddio y cyfeiriais ato eisioes a brofodd mor fendithiol yn Nant-y-cerig-bach. Os wyf yn cofio yn iawn yr hyn a glywais gan y tadau, yr oedd Owen Owens yn mhlith y bagad dynion ieuainc a ymunasant a'r achos dan weinidogaeth John Owen, Cyffin. Ei chwaer henaf ef oedd gwraig y Rhiwlas, a'i chwaer ieuengaf oedd priod Thomas Davies, Tanyrywen. Gadawodd ef ei ardal enedigol er cyn cof i mi, ac enülodd iddo ei hun safle barchus ar ystâd Kinmel, a thrigai yn mhentref tawel Llansantsior, gerllaw Abergele. Dyn tal ac esgyrnog, gyda gwyneb tebyg iawn i'r eiddo John Fletchei*, y trwyn yn amlwg ac yn bontiog; y llygaid yn haner cauedig a nefolaidd eu mynegiant, ac yn ei holl osgo ymddangosai yn ddyn nodedig o ddefosiynol. Dechreuodd bregethu yn lled gynar yn ei oes, ac y mae pregeth o'i eiddo yn nghyfrol Humphreys, Caernar- fon, a gyhoeddwyd yn 1842. Prin y gellir dweyd ei fod yn bregethwr