Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jhe Battle Axe.) Rhif. 2. Ebrill, 1896. Ofrol III. ADGOFION FY MYWYD. XIV. " The leading of us out oj oursehes is, perhaps, the main henefit oj nature. We all tend to make self a prison. Nature tahes doum the prison walls. The simplest Jlower can do it. . . . Nature whispers oj the suppernatural, and thejleeting preaches the eternal."—Leceie. CYDNABYDDIR, yn gyffredin, yr eöaith fanteisiol dda a dder- bynir oddiwrth fywyd rhydd mewn awyr iach i ireidd-dra ac yni giau a chyhyr a chorff dyn ieuanc yn ei holFranau ; eithr nid pawb sydd yn barod i gydolygu a bugail Ibrox yn y syniadau uchod gyda golwg ar effaith bywyd felly ar y meddwl, y galon, a'r cymeriad, ar gyfrif y dylanwad sydd gan natur i chwalu muriau culion hunanoldeb, ac i dynu meddwl dyn allan o hono ei hun i wrando lleisiau o dra- gwyddoldeb a glywir yQ ei swn hi, ac i edrych ar weledigaethau o'r goruwchnaturiol a ymrithiant trwy ei ffenestri. Ar ol treulio deugain mlynedd yn mynyddoedd Midian, pa ryfedd fod iechyd Moses wedi gor- oesi holl anhunedd a thraul taith yr anialwch am ddeugain mlynedd, ac na thywyllasai ei lygaid, ac na chiliasai ei ireidd-dra pan orchymyn- wyd iddo farw yn fab ugain mlwydd a chant ar ben Piscah. Ie, pa ryfedd hefyd, os gwelodd y berth yn Uosgi yn dân, ac y cafodd achos i ddiosg ei esgidiau oddiam ei draed gan y dadguddiad a roddai Duw o hono yn yr hen lwyn drain. Ychydig yw y pellder rhwng perthi y mynydd-dir a gorsedd yr Anfeidrol i'r meddwl myfyrgar pan fyddo chwaon natur wedi dychwel muriau ei hunanoldeb. Anfantais fawr fy mywyd, fel y tybiais ganwaith ar y pryd, ac ar ol hyny, oedd na chawswn dreulio 1858—1860 mewn rhyw sefydliad