Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y FWyELL (Jke Battle Axe.) Rhif. 1. Mawrth, 1896. Cyfrol III. ADGOFION FY MYWYD. XIII. " I expand and live in the v)arm day like com and melo7is."—Emerson. YÌ>YMUNWN gywiro un gwall mewn dydd- "^is iad a ddiangodd i'r ail gyfrol o'r Fwyell, t.d. 325. Yn ngwaelod y ddalen, yn lle y flwyddyn 1858, dylasai fod yn 1857^ Newydd droi fy nwyflwydd ar bymtlieg oed oeddwn pan gynygiais gyntaf ar y gwaitli mawr o bregethu yr Efengyl. A diau fod yr olwg oedd arnaf o ran person a gwisg yn ieuengaidd a gwledig, os nad yn wyrdd a mynyddig. Mwy nag unwaith y clywais ddes- grifiad o honof fy hunan wrth ymwthio trwy y dyrfa i gyfeiriad y pwlpud. Ni wyddai neb o'r beirniaid fy mod yn clywed gair a ddy- wedent ; eithr nis gallwn ymgadw rhag hyny. Gall dyn gau ei lygad pan na ddewiso weled ; eitlir ni ddichon neb gau ei glust, pa un bynag a ddewiso glywed ai peidio. Rywbryd yn 1858, ar y öbrdd rhwng Capel Garinon a Llanrwst, derbyniais rywbeth tebyg i erlidigaeth oddiar law bagad o bobl ieuainc a phlant o herwydd fy ymddangosiad anmhre- gethwrol a bachgenaidd. " Holo," ebai llanc gwynebgoch a bras ei olwg, " dyma y 'gethwr bach yn dwad, boys. Welwch chi o ? Ond tydio yn fychan, a gwynab fel geneth,^heb flewyn arno mwy nag sydd ar y gareg filldir yna. Welwch chi ei golar bach o, a chadach brith l